Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,468 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,908.78 ha |
Cyfesurynnau | 52.9303°N 3.0503°W |
Cod SYG | W04000222 |
Cod OS | SJ295375 |
Cod post | LL14 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Steve Witherden (Llafur) |
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Y Waun[1] (Saesneg: Chirk).[2] Saif ar y ffin â Lloegr. Mae'n enwog fel lleoliad Castell y Waun.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[3][4]
Roedd yr hen blwyf yn cynnwys y trefgorddau Y Waun, Bryncunallt, Gwernospin, Halchdyn a Phenyclawdd.
Rhwng 1282 a'r 1540au, Y Waun oedd prif ganolfan arglwyddiaeth Swydd y Waun, a oedd yn cynnwys hen gymydau Cynllaith, Mochnant Is Rhaeadr, a Nanheudwy. Daeth Y Waun yn rhan o'r hen Sir Ddinbych yn y 1540au, ac arosodd yn y sir honno tan 1974. Roedd yng Nghlwyd rhwng 1974 a 1996, ac mae ym mwrdeistref sirol Wrecsam ers 1996.
Mae priffordd yr A5, un o ffyrdd Thomas Telford, yn mynd trwy'r Waun. Hefyd, mae Dyfrbont y Waun yn cario Camlas Undeb Swydd Amwythig dros Afon Ceiriog.
Cyrhaeddodd y rheilffordd y dref yn 1884, yn cysylltu'r Waun ag Amwythig a Chaer. Fe adeiladwyd y bont rheilffordd yn uwch na'r draphont, oherwydd y cydymgais rhwng y rheilffyrdd a'r camlesydd.
Tan y 1960au, roedd Y Waun yn dref lofaol gyda'r mwyafrif o'r pentrefwyr yn gweithio mewn pyllau glo lleol fel Parc Du, Bryncunallt ac Ifton (dros y ffin yn Llanfarthin).
Mae gorsaf yna ar y llinell Amwythig i Gaer.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Waun (pob oed) (4,468) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Waun) (461) | 10.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Waun) (2934) | 65.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Y Waun) (678) | 35.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre