![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | ysbyty athrofaol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1971 ![]() |
![]() | |
Rhiant sefydliad | Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ![]() |
Rhanbarth | Caerdydd ![]() |
Gwefan | https://cavuhb.nhs.wales/hospitals-and-health-centres/our-hospitals/uhw/ ![]() |
![]() |
Lleolir Ysbyty Athrofaol Cymru (Saesneg: University Hospital of Wales) yn ardal y Mynydd Bychan, Caerdydd. Sefydlwyd ym 1971, ac erbyn hyn mae 1000 o wlau yn yr ysbyty. Hwn yw ysbyty athrofaol trydydd fwyaf y Deyrnas Unedig, a'r ysbyty mwyaf yng Nghymru.[1] Mae'n darparu gwasanaeth Damwain ac Argyfwng 24 awr ac amryw o adrannau arbenigol eraill.
Mae'r ysbyty wedi ei rannu'n dri bloc, sef Bloc A, B a C. Mae'r ysbyty athrofaol yn gysylltiedig ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Gweinyddir yr ysbyty gan Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro.
Cwblhawyd brosiect mil o bunnau gan gwmni Base Structures yn 2005, gan gyflenwi llwybr a oedd wedi ei gynllunio'n arbennig i gysylltu un rhan o'r ysbyty gyda'r llall.[2] Mae'r ysbyty hefyd yn brolio cynulliad enfawr yn y brif fynedfa, sy'n cynnwys derbynfa a siopau, yn ogystal â gwasanaethau arbennig sy'n rhoi cymorth i'r cleifion a'u teuluoedd.
Mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn gartref i Radio Glamorgan, sy'n darlledu ar Sianel 1, Patientline.[3] Dathlodd yr orsaf ei phen-blwydd yn 40 mlwydd oed yn 2007. Mae'n cyflenwi cerddoriaeth ac adloniant i'r staff, yr ymwelwyr a'r cleifion, 24 awr y dydd, pob diwrnod yr wythnos.
Mae cyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru wedi dod yn llawer haws yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae gwasanaethau Bws Caerdydd wedi ei wneud yn bosib i gyrraedd yr ysbyty o bob cwr o Gaerdydd. Mae gwasanaethau gan gwmnïau eraill megis Veolia a Stagecoach yn cyflewni trafnidiaeth o du allan i Gaerdydd.
Gwasanaethau Bws Caerdydd:
Gwasanaethau Veolia Transport Cymru:
Gwasanaethau Stagecoach: