Bod dynol benywaidd aeddfed yw dynes neu fenyw (woman yn Saesneg) (mewn cyferbyniaeth â dyn) ac mae'n cyfeirio at yr oedolyn yn unig. Mae'n tarddu o'r gair dyn a olygai'n wreiddiol ‘bod dynol’. Lluosog y gair dynes yw merched neu wragedd.
Benywdod yw'r cyfnod ym mywyd y ddynes ar ôl iddi fynd drwy blentyndod, glasoed a llencyndod. Mae gan wahanol wledydd ddeddfau gwahanol, ond ystyrir yn aml 18 oed y llawn oed (yr oed pan ddaw person oedolyn cyfreithiol).
Defnyddir y geiriau hogan, merch a geneth (ll. genod) i gyfeirio nid yn unig at blentyn benyw neu lances yn gyffredinol, ond hefyd at ddynes weithiau. Er enghraifft, nid pobl ifanc yn unig ydyw aelodau Merched y Wawr!
Ceir yn ogystal y term gwraig i ddynodi dynes briod, hen ferch (hyfed hen lances) i ddynodi dynes ddi-briod dros yr oed confensiynol i briodi a gweddw i ddynodi gwraig sydd wedi colli ei gŵr.
Mae system atgenhedlu benywaidd yn cynnwys:
Organau cenhedlu benywaidd | |