Dyma hanesyn unigol o Gymru am Storm Fawr Hydref 1987 (nid ystyrir y bu’r storm mor ddifrifol yng Nghymru ag yr oedd yn ne Lloegr a Ffrainc):
Ardal Llambed 20 Hydref 1987: Rwyf yn cofio storm fawr 1987 yn iawn. Tra'n gweithio fel milfeddyg yn Llambed cefais alwad i fynd y dynnu llo. Gweld bod angen gwneud llawdriniaeth Caesarean a dechrau ar y gwaith. Roedd yn chwythu yn enbyd ac wrth ddychwelyd i'r car i ôl rhagor o gyfarpar, gweld hanner o shiden zinc yn cael ei chwythu congl dros gongl, yn dod yn union amdanaf ond yn ffodus rhyw ddwy lath cyn fy nghyrraedd fe drodd i ffwrdd a mynd heibio imi a'r car! Dychwelyd i Lambed i ginio ac yn y prynhawn mynd yn ôl i'r un cyfeiriad. Roeddwn wedi clywed bod nifer o goed wedi cwympo ar y ffordd fawr am Aberaeron, felly dyma fynd hyd yr hewlydd llai ond gyda bwyell gennyf. Cyrraedd topiau Maestir, nifer o goed bychain ar draws y ffordd a sawl person yr ochor arall iddynt. Hyfryd oedd gweld y wen ar eu hwynebau pan welsant fi yn nesu gyda'r fwyell yn fy llaw a chliriwyd y ffordd.[1]