20g - 21g - 22g
1960au 1970au 1980au 1990au 2000au - 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au
2008 2009 2010 2011 2012 - 2013 - 2014 2015 2016 2017 2018
Go brin y bydd rhai yn anghofio Rhagfyr 2013. Bu’n fis o dristwch i nifer a ddioddefodd oherwydd llifogydd a gwyntoedd cryfion, ar hyd a lled yr ynysoedd yma a gogledd Ewrop. Cofnodwyd hyrddiad gwynt o 109 m.y.a. yn Aberdaron ar yr 26ain, y gwaethaf ers 19 mlynedd yn ôl Gwasanaeth Tywydd S4C, a disgynnodd y pwysau awyr o 936mb yn Stornoway, yr isaf ers can mlynedd. Yn Llanfaglan (data Ifor Williams), syrthiodd pwysau’r awyr dair gwaith o dan 980mb yn ystod 2013, y cwbl ym mis Rhagfyr, sef 18fed, 23ain i’r 25ain ac o’r 26 i’r 27ain. Ar yr 18fed, ‘roedd yn 980mb rhwng 10:30 a 11:30, ac o 11:30 ar y 23ain i 09:00 y 25ain, gyda’r pwynt isaf yn 964.8 am 23:30 ar yr 23ain. Yna ar y 26ain, o 21:00 hyd at 16:30 ar yr 27ain, gyda’r pwynt isaf yn 967 am 06:00. O ganlyniad, cawsom hyrddiadau yn 59mya am 17:30 ar y 18fed o’r de, de-ddwyrain, 70mya am 22:30 ar y 26, eto o’r un cyfeiriad a phan aeth y trydan i ffwrdd yn yr ardal, a 57mya am 04:30 ar yr 27ain y tro yma o’r de ddwyrain. Y diwrnod gwlypaf oedd, yr 18fed 19.8mm, (.78 modfedd) 23ain 28.5mm (1.12modfedd) a’r 29ain 38mm (1.5 modfedd), a’r cyfanswm misol yn 194.1mm, fymryn yn sychach na misoedd Rhagfyr 1994 204.8mm, 2000 258.4mm a 2006 215,4mm.[3]