Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,341 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1772°N 3.2342°W |
Cod SYG | W04000184 |
Cod OS | SJ176651 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Becky Gittins (Llafur) |
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Cilcain[1][2] ( ynganiad ). Saif i'r gorllewin o dref Yr Wyddgrug, ac ychydig i'r dwyrain o gopa Moel Llys-y-Coed, gyda Moel Famau i'r de-orllewin. Ceir yno eglwys, siop, tafarn, swyddfa'r post a neuadd y pentref.
Cofnodir yr eglwys gyntaf yn 1291. Ar un adeg roedd plwyf Cilcain yn cynnwys Cefn, Llan (neu Tre'r Llan), Llystynhunydd (neu Glust), Llys y Coed, Maes y Groes, Mechlas (neu Dolfechlas) a Trellyniau; erbyn hyn mae gryn dipyn yn llai.
Codwyd ysgol trwy danysgrifiad cyhoeddus yn y pentref yn 1799. Mae adeilad yr ysgol yn dŷ preifat erbyn heddiw. Cynhelir Gŵyl Cilcain bob blwyddyn i hybu'r celfyddydau a diwylliant.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cilcain (pob oed) (1,378) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cilcain) (237) | 17.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cilcain) (626) | 45.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cilcain) (195) | 34.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Bagillt · Bwcle · Caerwys · Cei Connah · Y Fflint · Queensferry · Saltney · Shotton · Treffynnon · Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu · Afon-wen · Babell · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Caergwrle · Carmel · Cefn-y-bedd · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Ffrith · Ffynnongroyw · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hôb · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd-y-Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-mwyn · Sandycroft · Sealand · Sychdyn · Talacre · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Ysgeifiog