Math | colofn fuddugoliaeth, safle archaeolegol, crug crwn, croes garreg |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llandysilio-yn-Iâl |
Sir | Llandysilio-yn-Iâl |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 124.9 metr, 106 metr |
Cyfesurynnau | 52.99213°N 3.18923°W |
Cod OS | SJ2027244528 |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE015 |
Mae Croes Eliseg neu Golofn Eliseg yn golofn sy'n coffhau Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), brenin Powys. Saif yn agos i Abaty Glyn y Groes, ger Llangollen, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ202445. Credir mai camgymeriad ar ran y cerfiwr oedd cerfio "Eliseg" yn lle "Elisedd".
Codwyd y golofn gan or-ŵyr Elisedd, Cyngen ap Cadell. Mae'r arysgrif Ladin ar y golofn bron yn amhosibl ei darllen yn awr, ond yr oedd yn gliriach yn oes Edward Llwyd a wnaeth gopi ohono. Mae cyfieithiad o'r rhan o'r arysgrif sy'n delio ag Elisedd fel a ganlyn :
Mae'r golofn yn awr yng ngofal Cadw.
Crug crwn ydy'r mwnt lle saif y Groes. Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE015.[2] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Fe godwyd y crug gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw.
Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu: