Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 446, 429 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,479.56 ha |
Cyfesurynnau | 53.191°N 3.844°W |
Cod SYG | W04000115 |
Cod post | LL32 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Claire Hughes (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolgarrog.[1][2] Saif ar ffordd y B5106 ar hyd glan orllewinol Afon Conwy, rhwng Tal-y-bont a Threfriw.
Mae Afon Porth-llwyd, sy'n llifo o Lyn Eigiau a thrwy gronfa ddŵr Coedty, yn ymuno ag Afon Conwy ger rhan ogleddol y pentref, tra mae Afon Ddu, sy'n llifo o Lyn Cowlyd, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw'r rhan ddeheuol. Mae gorsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy ar yr ochr arall i'r afon, a phont i gerddwyr yn ei chysylltu â'r pentref.
Nodir fod melin flawd ar Afon Porthlwyd yn y 18g. Dechreuwyd cynllunio y gwaith aliwminiwm yma yn 1895, ac agorwyd y gwaith yn 1907. Mae'n defnyddio trydan dŵr. Mi r'oedd y ffatri yn eiddo i Dolgarrog Aluminium Ltd ac ar hyn o bryd wedi ei gau.
Ar 2 Tachwedd, 1925, torrodd argae Llyn Eigiau, ac o ganlyniad i'r dŵr yn rhuthro i lawr y llethrau i gronfa Coedty, torrwyd yr argae yma hefyd. Boddwyd 16 o bobl yn Nolgarrog. Agorwyd llwybr coffa yn 2004 yn mynd heibio mannau arwyddocaol ac yn egluro'r digwyddiad.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Dolgarrog (pob oed) (446) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolgarrog) (200) | 46.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolgarrog) (319) | 71.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolgarrog) (80) | 41% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan