Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanrwst |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5.24 km² |
Cyfesurynnau | 53.1371°N 3.7938°W |
Cod OS | SH800615 |
Cod post | LL26 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Claire Hughes (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanrwst.[1][2] Saif ar lan ddwyreiniol Afon Conwy, tri chwarter y ffordd i fyny Dyffryn Conwy ar lôn yr A470. Mae Caerdydd 188.8 km i ffwrdd o Lanrwst ac mae Llundain yn 308.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25 km i ffwrdd.
Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn cysylltu'r dref â Llandudno yn y gogledd a Blaenau Ffestiniog yn y de. Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant gwlân ac roedd y dref yn adnabyddus am ei brethyn. Roedd gwneud telynnau yn ddiwydiant poblogaidd yno hefyd ac roedd galw mawr am gynnyrch gwneuthurwyr telynnau Llanrwst ledled Cymru. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ynghyd ag amaethyddiaeth. Lleolir Gwasg Carreg Gwalch, un o gyhoeddwyr llai mwyaf llwyddiannus Cymru, yn y dref.
Codwyd Y Bont Fawr dros Afon Conwy yn 1636. Y pensaer oedd Inigo Jones, yn ôl traddodiad. Yr ochr draw i'r bont mae plasdy Tu Hwnt i'r Bont.
Sŵ teithiol yn Llanrwst:
Adeiladwyd adeilad presennol Eglwys Sant Grwst, sy'n gysegredig i Sant Grwst, yn 1470, ond mae'r safle'n hŷn na hynny. Yn yr eglwys mae Capel Gwydir ac yno ceir cist arch garreg Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a symudwyd yno o Abaty Aberconwy. Yno hefyd mae beddrod cerfiedig sy'n coffháu Hywel Coetmor, un o gapteiniaid Owain Glyndŵr.
Enw arall ar y bont hon ar lafar yn lleol yw 'Pont Rhegi' gan ei bod yn amhosibl i ddau gerbyd basio'i gilydd ar yr un pryd am fod y bont mor gul. Oherwydd ei bod yn bont gefngrwm, mae mynd yn ôl yn anodd os nad yn amhosib i lawer. Ceir trydydd enw hefyd sef 'Pont y Perlau' oherwydd yn ôl traddodiad cafwyd hyd i berl yn yr afon pan oeddynt yn gosod y garreg sylfaen.[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanrwst (pob oed) (3,323) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrwst) (1,943) | 61% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrwst) (2539) | 76.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanrwst) (591) | 40.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst ym 1951, 1989 a 2019. Am wybodaeth bellach gweler:
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan