Einion ap Gwalchmai | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1203 |
Roedd Einion ap Gwalchmai (fl. 1203 - 1223) yn fardd llys Cymraeg a drigai ym Môn. Mae'n perthyn i ddosbarth o feirdd llys Cymraeg a adnabyddir fel Beirdd y Tywysogion. Daeth yn gymeriad llên gwerin.[1]
Roedd Einion yn perthyn i deulu barddol nodedig, yn y drydedd genhedlaeth o linach o feirdd sy'n dechrau gyda'i daid Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ei dad oedd Gwalchmai ap Meilyr. Ei frawd oedd Meilyr ap Gwalchmai ac mae'n bosibl fod y bardd Elidir Sais naill ai'n frawd iddo neu'n ewythr iddo.[1]
Cedwir tair awdl hir i Dduw gan Einion ynghyd â llinellau agoriadol mawl i Lywelyn Fawr.[1] Ei gerdd fwyaf nodedig efallai yw ei farwnad ddwys i Nest ferch Hywel, o Dywyn, Meirionnydd. Mae'n agor â chwech llinell telynegol iawn i fis Mai:
Cysylltir Einion â chwedl werin a elwir "Einion ap Gwalchmai a Rhiain y Glasgoed". Yn ogystal fe'i cysylltir â "Naid Abernodwydd", ger Pentraeth ar ynys Môn; dywedir iddo neidio hanner can troedfedd dros afon Nodwydd yn Abernodwydd o flaen llygaid ei gariad er mwyn ei hennill yn wraig iddo.[3]