Math | pentref, cymuned |
---|---|
Cysylltir gyda | Brwydr Pentraeth |
Poblogaeth | 1,222 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Cwm Cadnant |
Cyfesurynnau | 53.2819°N 4.2158°W |
Cod SYG | W04000873 |
Cod OS | SH523784 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yn Ynys Môn, Cymru, yw Pentraeth.[1][2] Saif ar lôn yr A5025. Saif yn ne-ddwyrain yr ysnys. Ceir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Bodeilio gerllaw.
Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gorwedd yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ystyr yr enw yw "diwedd y traeth" ond erbyn heddiw mae'r môr (Y Traeth Coch) yn filltir i ffwrdd o'r pentref. Hen enw'r pentref a'r plwyf oedd Llanfair Betws Geraint (weithiau Betws Geraint yn unig).[3]
Ceir hen chwareli yn y bryniau isel ger y pentref. I'r dwyrain o'r eglwys ceir tri maen hir a elwir Y Tair Naid. Heb fod ymhell o'r pentref i gyfeiriad y gorllewin mae traddodiad yn nodi'r man lle cyflawnodd y bardd Einion ap Gwalchmai "Naid Abernodwydd".
Ymladdwyd Brwydr Pentraeth ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170. Bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd Hywel yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd gan Dafydd a Rhodri ym mrwydr Pentraeth. Coffheir Hywel a'i frodyr maeth mewn dwy gyfres o englynion marwnad gan y bardd Peryf ap Cedifor.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Pentraeth (pob oed) (1,178) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pentraeth) (633) | 56% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pentraeth) (724) | 61.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pentraeth) (158) | 31.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele