Math | pentref, cymuned |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn, Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.284°N 4.562°W |
Cod SYG | W04000040 |
Cod OS | SH2989080057 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yng ngorllewin Ynys Môn yw Y Fali (Saesneg: Valley). Saif ar yr A5 yn agos at Ynys Cybi. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru (lle dim ond ar gais mae trenau'n stopio).
Mae peth drafodaeth wedi bod ynglŷn â tharddiad yr enw. Yn ôl rhai, mae'r gwraidd yn y Gwyddeleg Baile, anheddiad, yn hytrach na'r gair Saesneg, Valley. Dywed Gwilym T. Jones a Tomos Roberts [1] fel arall, sef bod y gair yn dod o'r amser pan gloddiwyd pant er mwyn cael rwbel i adeiladu Pont Lasinwen, neu Morglawdd Stanley, rhan o'r A5 presennol. Roedd y pant a ffurfiwyd wedi cael yr enw Valley, a drosglwyddwyd i'r pentref.
Defnyddir y ffurf (Y) Dyffryn yn ogystal ag Y Fali heddiw.
Yn agos i'r pentref mae gorsaf yr Awyrlu Brenhinol, RAF y Fali: yno y lleolir Maes Awyr Môn hefyd. Wrth adeiladu maes awyr yr Awyrlu yn 1942, cafwyd hyd i gasgliad pwysig o gelfi o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach gerllaw.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Fali (pob oed) (2,361) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Fali) (1,253) | 54.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Fali) (1523) | 64.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Fali) (433) | 42.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele