Gwyn Llewelyn | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1942 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, darlledwr ![]() |
Newyddiadurwr a darlledwr o Gymro yw Gwyn Llewelyn (ganwyd 6 Mawrth 1942). Mae'n adnabyddus am ei adroddiadau ar raglen newyddion Y Dydd ac am fod y newyddiadurwr teledu cyntaf yn Nhrychineb Aberfan. Ef hefyd oedd yn cyflwyno'r gyfres gylchgrawn Hel Straeon.[1]
Ganwyd Gwyn ym Mangor a fe'i magwyd yn Ty'n y Gongl, Ynys Môn. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Ty'n y Gongl ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Yn 16 oed ymunodd a'r North Wales Chronicle a'r Cloriannydd fel cyw-newyddiadurwr cyn symud i Gaerdydd yn 1962 i fod yn Is-Olygydd ar y Western Mail, y person ieuengaf yn hanes y cwmni i ddal swydd o'r fath.[2]
Yn 1962 ymunodd â chwmni newydd Teledu Cymru fel gohebydd pan oedd y tîm yn cynnwys John Roberts Williams a T. Glynne Davies. Yn dilyn methiant y fenter ar ddiwedd 1963, ailymunodd â'r Western Mail fel gohebydd cyffredinol. Yn 1964 ymunodd â chwmni TWW fel Gohebydd Crwydrol ar raglen Y Dydd. Yn 1966 ef oedd y newyddiadurwr teledu cyntaf i gyrraedd Aberfan, awr wedi'r drychineb.[3] Daeth yn brif gyflwynydd Y Dydd yn 1968 a bu yn y swydd tan 1975.
Yn 1976 ymunodd â'r BBC a symudodd i Fangor i gyflwyno Bore Da ac ef hefyd oedd darllenydd newyddion cyntaf Radio Cymru.
Yn 1979 derbyniodd gynnig i fod yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Heddiw gan gadw ei ddyletswyddau ar O'r Newydd. Yn 1982 daeth yn un o gyflwynwyr sefydlog Newyddion Saith ar sianel newydd S4C ac yn 1986 derbyniodd wahoddiad i fod yn brif gyflwynydd Hel Straeon ac ymuno â thîm a oedd yn cynnwys Lyn Ebenezer a Catrin Beard.
Bu'n Bennaeth Uned Gyfathrebu Cyngor Ynys Môn cyn dod yn ohebydd y gogledd ar raglen Wedi 7. Fe ymddeolodd o'r rhaglen yn 2007.
Mae'n briod â Luned a bu'n byw ym Mhorthaethwy am flynyddoedd cyn symud i Gaernarfon. Mae'n Dad i Sion, Siwan a Shari Llewelyn
Ysgrifennodd ddau lyfr o hanesion Hel Straeon, teithlyfr Gwyn a'i Fyd yn seiliedig ar y gyfres deledu a'r nofelau Pry'r Gannwyll ac Yr Ias yng Ngruddiau'r Rhosyn.