BBC Radio Cymru
Ardal DdarlleduCymru
Dyddiad Cychwyn3 Ionawr 1977
TonfeddFM: 92.4-96.8, 103.5-104.9,
DAB,
Freeview: 720 (yng Nghymru),
Sky Digital: 0154 (dros Prydain a Iwerddon),
Virgin Media: 936,
Ar-lein
PencadlysAberystwyth, Bangor, Caerdydd
Perchennog BBC
Gwefanwww.bbc.co.uk/radiocymru
Canran cynulleidfa2.7% (2017)[1]

Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol DAB, ar Freeview yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar loeren drwy wledydd Prydain cyfan, ers 2005; fe'i darlledir hefyd dros y Rhyngrwyd ers Ionawr 2005 - i bedwar ban byd[2]. Mae'r rhaglenni'n cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin.

Cychwynnodd yr orsaf 6.45am ddydd Llun gyda Geraint Jones yn cyflwyno'r gwasanaeth newydd. Gwyn Llewelyn oedd y llais nesaf i'w glywed, yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud o hyd.[3] Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast Helo Bobol a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am.

Yn ystod y dydd mae'n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Dros Frecwast, Dros Ginio a Post Prynhawn, ynghyd â bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Ifan Evans a Tudur Owen.

Radio Cymru 2

Ar ddydd Llun, 19 Medi 2016, lansiwyd ail wasanaeth radio, Radio Cymru Mwy am gyfnod arbrofol o dri mis yn y cyfnod yn arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40 oed. Roedd yn cynnwys pump awr o raglenni adloniant a cherddoriaeth bob diwrnod o'r wythnos, a roedd ar gael ar DAB yn y de-Ddwyrain ac ar lein.

Chwe mis yn ddiweddarach cyhoeddodd BBC Cymru y byddai ail orsaf radio, Radio Cymru 2, yn cael eu lansio ar fore Llun, 29 Ionawr 2018.[4] I gychwyn bydd yn darparu sioe frecwast yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant.[5] Bydd yr orsaf ar gael drwy lwyfannau digidol - DAB, teledu digidol a BBC iPlayer Radio (a elwir bellach yn BBC Sounds Yn Hydref 2017 cyhoeddwyd mai'r cyn-newyddiadurwr Dyfan Tudur fyddai'n arwain y gwasanaeth newydd.[6]

Yn Rhagfyr 2017 cadarnhawyd amserlen cyntaf yr orsaf:[7]

Ym mis Awst 2022 cyhoeddwyd cynlluniau i ymestyn oriau darlledu Radio Cymru 2 gyda rhagor o gyflwynwyr ac oriau yn ystod y bore. Cyhoeddodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards bod "Radio Cymru 2 o 15 awr yr wythnos i dros 60 awr yr wythnos yn rhan o strategaeth uchelgeisiol BBC Cymru i sicrhau ein bod yn gallu rhoi dewis i siaradwyr Cymraeg."[8]

Gadawodd y gyflwynwraig boblogaidd, Caryl Parry Jones ei sioe brecwast i gyflwyno sioe hwyr ar Radio Cymru. Y cyflwynwyr ar newydd-wedd yr orsaf oedd: Rhydian Bowen Phillips, Lisa Gwilym a Dom James, oedd yn ymuno gyda thri cyflwynydd blaenoro, Lisa Angharad, Daniel Glyn, Mirain Iwerydd. Roedd y gwasanaeth newydd yn darlledu 07:00 a 11:00 o ddydd Llun i ddydd Iau, a 07:00 a 09:00, ac yna 11:00 a 13:00 ar ddydd Gwener.[9] Mae Radio Cymru 2 hefyd yn darlledu sylwebaethau pêl-droed ychwanegol ar nos Fawrth a nos Fercher ac ar brynhawn Sadwrn.

Ers ehangu amserlen yr orsaf, mae Radio Cymru 2 wedi newid ei pholisi cerddoriaeth i chwarae cyfran uwch o gerddoriaeth yn yr iaith Saesneg, o'i gymharu â'r rhestr chwarae ar y prif gwasanaeth.

Ymestyn Oriau

Ym mis Ionawr 2024 cyhoeddodd Ofcom y byddai Radio Cymru 2 yn cael caniatâd i fwrw 'mlaen gyda chynlluniau i ymestyn nifer yr oriau darlledu ar Radio Cymru 2. Daeth yr asesiad i'r casgliad y bydd cynlluniau'r BBC "yn debygol o sicrhau gwerth cyhoeddus ychwanegol i wrandawyr Cymraeg". Bydd rhaid i'r orsaf ddarparu bwletinau newyddion rheolaidd.[10]

Cyflwynwyr

Rhestr o gyflwynwyr cyfredol:

Cyn-gyflwynwyr

Rhestr o gyflwynwyr o'r gorffennol:

Golygyddion yr orsaf

Niferoedd

Gwrandawyr (cyrhaeddiad wythnosol) Radio Cymru at ddiwedd mis Medi (chwarter 3) 2015; Ffynhonnell: Statiaith. Tynnwyd llinell drwy’r gyfres i amlygu’r duedd ac mae’r ardal dywyll yn dangos cyfwng hyder 95% bras.

Rhwng 2002 a 2015 mae niferoedd y gwrandawyr wedi cwympo'n flynyddol: o uchafswm o 175,000 i oddeutu 104,000, yn ôl RAJAR, sy'n gyfrifol am fesur y niferoedd.[15] Yn flynyddol, ceisiwyd amddiffyn hyn; mynegodd golygydd BBC Radio Cymru yn 2014, Betsan Powys ei bod yn teimlo'n "aruthrol o siomedig, mae'n dipyn o glec" ac y byddai'n "gweithio'n galed i godi'r ffigyrau." Er hynny, gwelwyd cwymp arall, y flwyddyn ddilynol.[16]

Yn Awst 2015 dywedodd Robat Gruffudd, perchennog Gwasg y Lolfa wrth y cylchgrawn Barn: "Yn sgil cwynion o sawl cyfeiriad am natur rhaglenni Radio Cymru, gostyngiad sylweddol yn ddiweddar yn nifer y gwrandawyr, heb sôn am y toriad yn incwm breindal i gerddorion Cymraeg, onid creu ail donfedd yw’r ateb amlwg?"[17]

Yn Hydref 2015 cyhoeddwyd fod nifer y gwrandawyr i lawr 12,000 i 104,000 dros y chwarter cynt - ei lefel isaf erioed. Dros flwyddyn prin oedd y newid, i lawr mil yn unig o'r 105,000 a gofnodwyd yn yr un cyfnod yn 2014.[18]

Ers Medi 2022, mae gan Radio Cymru 131,000 o wrandawyr wythnosol, sef 2.9% o'r ganran gynulleidfa.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. http://www.rajar.co.uk/listening/quarterly_listening.php. Missing or empty |title= (help)
  2. "BBC Press Office". Bbc.co.uk. 2005-01-24. Cyrchwyd 2013-05-04.
  3.  Radio Cymru yn 30 oed. BBC Cymru. Adalwyd ar 6 Chwefror 2018.
  4. Radio Cymru 2 i ddechrau darlledu ym mis Ionawr 2018 , BBC Cymru Fyw, 28 Tachwedd 2017.
  5. ‘Radio Cymru 2′ ar y ffordd – am dair awr bob bore , Golwg360, 23 Mehefin 2017.
  6. Dyfan Tudur wedi’i benodi i arwain Radio Cymru 2 , Golwg360, 25 Hydref 2017.
  7. Dafydd a Caryl yn ôl efo’i gilydd ar Radio Cymru 2 , Golwg360, 14 Rhagfyr 2017.
  8. "Y BBC yn cyhoeddi bwriad i ehangu Radio Cymru 2 i ddarlledu 60 awr yr wythnos". =BBC Media Centre. 3 Awst 2022.
  9. "Cyflwynwyr newydd wrth i Radio Cymru 2 ehangu". BBC Cymru Fyw. 20 Medi 2022.
  10. "Radio Cymru 2 i ymestyn nifer yr oriau darlledu". BBC Cymru Fyw. 18 Ionawr 2024.
  11. Golygydd Radio Cymru’n rhoi’r gorau i’w swydd , Golwg360, 4 Ebrill 2013. Cyrchwyd ar 13 Medi 2016.
  12.  Holi ac ateb: Betsan Powys am "fynd amdani". BBC Cymru (5 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
  13. Penodi Rhuanedd Richards yn olygydd newydd Radio Cymru , BBC Cymru Fyw, 24 Gorffennaf 2018.
  14. Dafydd Meredydd yw Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru , BBC Media Centre, 9 Awst 2021. Cyrchwyd ar 23 Medi 2021.
  15. [1] adalwyd 12 Awst 2015
  16. Gwefan www.bbc.co.uk/cymrufyw; adalwyd 12 Awst 2015
  17. www.cylchgrawnbarn.com; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 12 Awst 2015
  18. Gwefan y BBC; adalwyd 29 Hydref 2015

Dolenni allanol