Tudur Owen | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1967 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd radio, cyflwynydd teledu, digrifwr |
Actor, digrifwr, cyflwynydd teledu a radio, ymgyrchydd[1] ac awdur Cymreig ydy Tudur Owen (ganed Mai 1967)[2].
Cafodd Tudur ei eni ar Ynys Môn. Ei rieni oedd y ffarmwr a dyn busnes Iolo Owen, Trefri (1931-2024) a Gwyneth.[3] Roedd yn un o pump o blant a fagwyd yn Nhrefri, un o ffermydd mwyaf stad Bodorgan.[4]
Dechreuodd berfformio comedi ar ei sefyll trwy gyfrwng y Gymraeg yn 1999.[5]
Mae Tudur wedi ymddangos ar nifer o raglenni comedi ac adloniant S4C yn cynnwys Gwefreiddiol, Gwerthu Allan, Mawr a Noson Lawen.[6]. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer rhaglenni fel Y Rhaglen Wirion ‘Na, Craig Ac Eifion, Teledu Eddie a Wil a Cêt.[7]
Yn 2009 fe gafodd gyfres sioe sgwrsio Tudur o'r Doc a oedd yn cael ei ffilmio yn Galeri, Caernarfon. Fe ddaeth y sioe 'nôl gydag ychydig o newidiadau a theitl newydd Sioe Tudur Owen yn 2011.[8][9]
Yn 2016 cyflwynodd raglen ddogfen Tudur Owen a'i Gwmni Pysgod oedd yn dilyn Tudur wrth geisio ail-gyflwyno modd o brynu pysgod ffres o'r Fenai yn siopau lleol Porthaethwy. Dilynwyd hyn gan gyfres lawn yn 2017 yn edrych ar sut i greu busnesau sy'n cynhyrchu a gwerthu yn y gymuned leol.[10]
Mae ganddo sioe ar brynhawn ddydd Gwener ac ar fore Sadwrn ar Radio Cymru.
Roedd yn berchen ar fusnes Tŷ Golchi sy'n cynnwys caffi, siop a chlwb comedi. Fe brynodd yr adeilad sydd wedi ei leoli rhwng Bangor a Chaernarfon a fe agorwyd y busnes ym mis Ionawr 2012.[11]
Ym mis Hydref 2014, cafodd Tudur ddiagnosis o gancr y brostad a chyhoeddodd hyn ar ei sioe ar Radio Cymru. Derbyniodd lawdriniaeth yn Clatterbridge i waredu'r cancr, nad oedd wedi lledu. Ers hynny, mae Tudur yn ymgyrchu ac annog dynion i fod yn fwy ymwybodol o'r cyflwr.[12] Mae'n byw yn Y Felinheli gyda'i wraig Sharon ac mae ganddynt ddau blentyn.[13]
Ar 5 Gorffennaf 2022, fe'i anrhydeddwyd gan Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i adloniant yng Nghymru. Derbyniodd radd Doethur mewn Llenyddiaeth a’i urddo gyda Gradd er Anrhydedd.[14]