Math | fluid flow, osgiliad, periodic motion |
---|---|
Lleoliad | Cefnfor y Byd |
Yn cynnwys | low tide, high tide |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y llanw yw ymchwydd a mewnlifiad rheolaidd lefel dyfroedd y môr mewn canlyniad i rym atyniad disgyrchiant rhwng y ddaear, y lleuad a'r haul. Mae newidiadau mewn lleoliad cymharol y tri chorff hyn yn achosi amrywiad yng ngraddfa'r llanw. Mae'r rhan fwyaf o lefydd yn y byd yn cael llanw dwywaith y dydd ond gan fod 'diwrnod llanw' yn parhau am 24 awr 51 munud nid ydynt yn digwydd ar yr un amser bob dydd o'r flwyddyn a chynhyrchir gwybodlenni arbennig yn lleol i ddangos hynny.
Mae hogia ifanc o Aberdaron yn cytuno nad oes yna'r fath beth â “llanw isel”.
Mae trai mawr yn syrthio i'r un categori a llanw uchal sef y pellter mwya ar Spring tide e.e. ar drai mawr mae'n bosib gweld olion yr hen goedwig ar draeth Porth Neigwl. Efallai fod yna erbyn heddiw ddefnydd o 'ben trai' yn hytrach na distyll, ac o ddewis, mae hynny yn well na llanw isel.[1]