Mewn mathemateg, y lluoswm (lluosog: lluosymiau) yw canlyniad lluosi, neu fynegiant sy'n dynodi'r ffactorau sydd i'w lluosi. Ar lafar gwlad, defnyddir "yr ateb" am y lluoswm. Er enghraifft, 6 yw lluoswm 2 wedi'i luosi gyda 3 (hwn yw canlyniad y lluosi), a yw lluoswm a .
Nid yw trefn y ffactorau lle mae rhifau real neu rifau cymhlyg yn cael eu lluosi yn effeithio ar y lluoswm e.e.
2 x 4 = 8
4 x 2 = 8
Gelwir hyn yn 'ddeddf gymudol lluosi' (the commutative law of multiplication). Pan luosir matricsau[1] neu algebrâu cysylltiol eraill, mae trefn y ffactorau'n cyfri; gelwir y rhain yn 'anghymudol'.
Ceir sawl gwahanol fath o luosymiau mewn mathemateg: heblaw am luosi rhifau, polynomialau neu fatricsau, gellir, hefyd, ddiffinio lluosymiau
sawl strwythur algebraidd gwahanol, fel y gwelwn isod.
Mae cyfanrifau'n caniatau rhifau positif a rhifau negatif. Lluosir y rhifau, yn union fel rhifau naturiol, ar wahân i'r ffaith ein bod angen rheol newydd i'r arwyddion:
Mae'r gweithredwr lluoswm ar gyfer lluoswm pob dilyniant wedi'i ddynodi gan y lythyren Groeg pi∏ (gellir ei gymhau gyda'r lythyren Sigma ∑ sy'n symbol ar gyfer symiant, sef adio cyfres o rifau).