Myrddin ap Dafydd
Myrddin ap Dafydd yn 2007
Ganwyd25 Gorffennaf 1956 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
TadDafydd Parri Edit this on Wikidata

Prifardd, golygydd a chyhoeddwr Cymreig yw Myrddin ap Dafydd (ganwyd 25 Gorffennaf 1956). Mae'n Archdderwydd Cymru ers 2019.

Bywyd cynnar ac addysg

Magwyd Myrddin yn Llanrwst. Addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n fab i'r awdur llyfrau plant Dafydd Parri ac i'r werthwraig llyfrau Arianwen Parri.

Gyrfa

Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.[1] Mae'n bellach wedi ymgartrefu yn Llwyndyrys ger Pwllheli, Pen llyn Gwynedd.[2] Ef oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000.

Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2018 mai ef fydd Archdderwydd Cymru rhwng 2019 a 2022 gan ddilyn Geraint Lloyd Owen.[3] Yn 2020 bu'n rhaid gohirio'r Eisteddfod oherwydd pandemig COVID-19 a cytunodd yr Orsedd i ymestyn ei gyfnod am flwyddyn ychwanegol.[4]

Bywyd personol

Mae Myrddin yn briod i Llio Meirion, ac yn dad i Carwyn ap Myrddin, Llywarch ap Myrddin, Lleucu Myrddin, Owain ap Myrddin ac i Cynwal ap Myrddin. Mae hefyd yn daid ers i'w fab Carwyn a'i briod Mari gael mab, Deio ap Carwyn yn haf 2018.

Gwaith

Cerddi a Barddoniaeth

Llyfrau Plant Cymraeg

Llyfrau Plant Saesneg

Llyfrau Oedolion

Crynoddisgiau

Gwobrau ac Anrhydeddau

Cyfeiriadau

  1. Llanrwst's Welsh language publishing company celebrates 20 years (en) , dailypost.co.uk, Trinity Mirror, 18 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
  2. "Academi.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-11. Cyrchwyd 2010-09-26.
  3. Myrddin ap Dafydd ydi Archdderwydd nesaf Cymru , Golwg360, 7 Gorffennaf 2018.
  4. "Ymestyn cyfnod Archdderwydd ar ôl gohirio'r Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 7 Awst 2020. Cyrchwyd 15 Awst 2023.
  5. Llafar Gwlad[dolen marw]
  6. "Carmarthenshire Coast and Gower Circular Walks". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-11. Cyrchwyd 2010-09-26.
  7. "Welcome to Bermo (Barmouth)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-12. Cyrchwyd 2010-09-26.

Dolenni allanol