Simon Brooks
Ganwyd11 Ebrill 1971 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, golygydd, academydd Edit this on Wikidata

Academydd yw Dr Simon Brooks (ganwyd 11 Ebrill 1971).

Rhwng 1996 a 2007, bu'n olygydd y cylchgrawn materion cyfoes Barn, bu hefyd yn gyd-olygydd y cylchgrawn Tu Chwith rhwng 1993 a 1996. Yn 2009, cyhoeddwyd casgliad o'i ohebyddiaeth yn Barn. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymuned; bu'n gyfrifol am weinyddu'r swyddfa ganolog a bu'n aml yn siarad â'r cyfryngau am y mudiad rhwng 2001 and 2004.

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Dr Simon Brooks yn un o gant a wrthododd dalu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[1]

Mae'n byw ym Mhorthmadog ac yn gynghorydd ar Gyngor Tref Porthmadog.[2]

Roedd Simon Brooks yn un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn 2011.

Llyfryddiaeth

Academaidd

Gohebyddiaeth

Cyfeiriadau

Dolenni allanol