Taliesin | |
---|---|
Ganwyd | 534, 518 Powys |
Bu farw | 599 |
Dinasyddiaeth | sub-Roman Britain |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, bardd, dewin |
Roedd Taliesin yn un o'r beirdd cynharaf yn yr iaith Gymraeg, a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn fardd llys i ddau o frenhinoedd y Brythoniaid: Cynan Garwyn o Bowys ac Urien Rheged, brenin Rheged yn yr Hen Ogledd. Bu fyw yn ail hanner y 6g ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl Aneirin. Fe'i crybwyllir yn y llyfr Historia Brittonum gan Nennius ynghyd ag Aneirin, Cian, Blwchfardd a Thalhaearn Tad Awen, fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn Llyfr Taliesin, llawysgrif o ddechrau'r 13g. Maent yn perthyn i'r Hengerdd. Yn Llyfr Taliesin a llawysgrifau eraill ceir nifer o gerddi eraill yn ogystal, ar destunau amrywiol, sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno. Yr enw traddodiadol ar y bardd chwedlonol, cyfansoddwr tybiedig y cerddi chwedlonol amdano a'r daroganau yn ei enw, yw Taliesin Ben Beirdd, ond nid oedd Cymry'r Oesoedd Canol yn gwahaniaethu rhwng y bardd hanesyddol ac arwr y chwedlau.
Mae'r ychydig a wyddom am hanes y bardd yn deillio o'r wybodaeth a geir yn nhestunau Canu Taliesin, a'r cyfeiriad ato yn llyfr Nennius. Ceir nifer o gyfeiriadau ato yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr, ond nid ydynt llawer o gymorth fel tystiolaeth hanesyddol.
Dyma dystiolaeth Nennius yn yr Historia Brittonum ar ôl nodyn am Ida, brenin Northumbria (547-579):
Mae gennym ddeuddeg testun a dderbynnir yn waith dilys Taliesin. Mae un ohonynt yn gerdd i'r brenin Cynan Garwyn o deyrnas Powys, sy'n awgrymu fod Taliesin wedi bod ym Mhowys ar un achlysur o leiaf. Mae'r gweddill yn gerddi i dri phennaeth o'r Hen Ogledd, sef Urien Rheged a'i fab Owain, o deyrnas Rheged, a Gwallawg, brenin Elfed (Elvet), un o dri brenin a ymladdodd gyda Urien yn erbyn Hussa mab Ida o Northumbria.
Damcaniaeth Ifor Williams[2] am hanes Taliesin oedd iddo ddechrau ei yrfa yng Nghymru trwy ganu i Gynan Garwyn ym Mhowys. Roedd Powys ar y pryd yn deyrnas ehangach na'r deyrnas ganoloesol ac ymestynnai i'r dwyrain i rannau o ganolbarth Lloegr heddiw, gan ffinio â hen deyrnas Frythonaidd Elfed ac, efallai, â theyrnas Rheged ei hun. Oddi yno aeth i'r Hen Ogledd, wrth i fri Urien Rheged dyfu, i fod yn fardd llys iddo. Mae Ifor Williams yn dangos fod llinell mewn cerdd i Urien - 'kyn ny bwyf teu' ("er nad wyf o'r un wlad â thi") - yn profi nad oedd Taliesin yn frodor o Reged. Ymddengys iddo ymweld â llysoedd eraill a chanu i bennaethiaid eraill fel Gwallawg yn Elfed a bod Urien wedi digio wrtho am hynny. Canodd Taliesin gerdd dadolwch iddo yn iawn am hynny. Ni wyddom sut y treuliodd ei flynyddoedd olaf.
Ceir traddodiad poblogaidd yng Nghymru sy'n cysylltu Taliesin a Llyn Geirionnydd, Gwynedd, ond mae'n draddodiad diweddar a dyfodd o gamddarllen llinell yn y gerdd 'Anrheg Urien':
Ond dangosodd Ifor Williams mai iawn-llin ("gwir linach") yw'r darlleniad (mae geirionyd yn hen ffurf ar ceraint).[3]
Cofnododd Elis Gruffydd fersiwn o'r chwedl Hanes Taliesin yn y 16g, a'r hanes yma a fersiynau diweddarach ohono, ynghyd â'r canu darogan a cherddi chwedlonol canoloesol, sydd yn sylfaen i ddelw Taliesin yn y diwylliant a dychymyg poblogaidd hyd heddiw, fel "Taliesin" neu dan yr enw traddodiadol Taliesin Ben Beirdd. Yn y traddodiad barddol Cymraeg, roedd Taliesin yn cael ei ystyried gan y beirdd fel Tad neu sylfaenydd y Traddodiad hwnnw ac roedd y chwedlau amdano yn gyfarwydd i bawb.
Priodoloir tua 270 o gerddi i Daliesin. Fe’u diogelir mewn 259 llawysgrif. Gellid eu dosbarthu fel hyn: