Mae undod Celtaidd yn cyfeirio at undod gwleidyddol, cydweithio a chynghreiriau rhwng y gwledydd Celtaidd. Mae'n enghraifft o syniadaeth Pan-Geltaidd.
Yn 2010, ffurfiodd Plaid Cymru a’r SNP “Cynghrair Celtaidd” gyda’r nod o gynyddu eu dylanwad ar lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy gytundebau dros bolisïau a chyllid.[1]
Cynigwyd Undeb Celtaidd fel dewis amgen i Brexit.[2][3]
Yn 2016, awgrymodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban ar y pryd goridor Celtaidd o fusnes rhwng yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.[4]
Yn mis Ionawr 2019, awgrymodd arweinydd Plaid Cymru y pryd, Adam Price y gallai'r gwledydd Celtaidd ffurfio Banc Datblygu Celtaidd yn ogystal a rhyw fath o undeb gwleidyddol Celtaidd.[5] Yn 2020, awgrymodd greu Undeb Celtaidd eto ond rhwng Cymru a'r Alban y tro hwn.[6]
Yn mis Hydref 2019 dywedodd Llywydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald wrth gynhadledd Plaid Cymru ei bod hi'n "Amser i adeiladu diwylliant gwleidyddol pan-Geltaidd i drechu Torïaeth’".[7]
Yn 2020, awgrymodd y newyddiadurwr Gina Tonic “Weriniaeth Geltaidd Unedig” gan gynnwys yr Alban, Cymru, Cernyw, Ynys Manaw, Llydaw ac Iwerddon Unedig.[8]
Yn 2021 awgrymwyd Undeb Celtaidd a phosibilrwydd Undeb Gaelaidd yn cynnwys Yr Alban ac Iwerddon gan un newyddiadurwr.[9]
Yn 2022, awgrymodd y newyddiadurwr Ifan Morgan Jones y gallai gwledydd Celtaidd o fewn y Deyrnas Unedig ffurfio "undeb o fewn undeb" er mwyn sicrhau dylanwad a hunan-ymreolaeth. Awgrymodd y gallai mwy o ymreolaeth neu annibyniaeth fel undeb ffurfiol neu fel cynghrair, gynnig rhyw fath o sicrwydd.[10]
Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru "Y Dreftadaeth Geltaidd - Cytundeb Cydweithio Cernyw-Cymru" yn canolbwyntio ar gydweithredu yn y meysydd canlynol;
Ym mis Awst 2023, cyfarfu arweinwyr gwleidyddol o Iwerddon, yr Alban, Cymru, Cernyw, Llydaw, Galisia ac Asturias yn y Fforwm Celtaidd cyntaf erioed. Roedd y meysydd a drafodwyd yn cynnwys "Erasmus Celtaidd", trafnidiaeth forwrol, pysgota ac ynni gwynt ar y môr ac ieithoedd brodorol. Ymysg ieithoedd brodorol y gwledydd hynny ceir Astwrieg, Llydaweg, Cernyweg, Galiseg, Gwyddeleg, Gaeleg, a Chymraeg.[12]
|