Annes Glynn | |
---|---|
Ganwyd | Brynsiencyn ![]() |
Man preswyl | Rhiwlas ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd ![]() |
Adnabyddus am | Canu'n y Co', Dilyn 'Sgwarnog, Symudliw ![]() |
Bardd a nofelydd Cymreig ydy Annes Glynn (ganed Brynsiencyn, Ynys Môn[1]), Mae'n byw yn Rhiwlas, ger Bangor.
Cafodd ei chyfrol o lên meicro Symudliw ei restru ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Enillodd yr un llyfr y Fedal Ryddiaith iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004. Roedd yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007.
Bu Annes yn aelod o dîm yr Howgets ar Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru ac yn fwy diweddar yn aelod o dîm Criw'r Ship, Caernarfon. Bu'n is-olygydd cylchgrawn Merched y Wawr, sef Y Wawr.[2]