Rzeczpospolita Polska | |
Arwyddair | Move your imagination |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, successor state |
Enwyd ar ôl | Polans |
Prifddinas | Warsaw |
Poblogaeth | 38,382,576 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Nid yw Gwlad Pwyl ar Ben |
Pennaeth llywodraeth | Donald Tusk |
Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2, Europe/Warsaw, CEST |
Nawddsant | Adalbert o Brag, Stanislaus o Szczepanów |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Pwyleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Ewrop, Dwyrain Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd |
Arwynebedd | 312,683 km² |
Gerllaw | Y Môr Baltig, Afon Oder, Afon Neisse, Jizera, Divoká Orlice, Opava, Olza, Orava, Białka, Dunajec, Poprad, Afon Bug, Afon Vistula, Noteć |
Yn ffinio gyda | tsiecia, yr Almaen, Wcráin, Slofacia, Belarws, Lithwania, Rwsia |
Cyfesurynnau | 52°N 19°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabined Gwlad Pwyl |
Corff deddfwriaethol | Senedd Gwlad Pwyl |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gwlad Pwyl |
Pennaeth y wladwriaeth | Andrzej Duda |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Pwyl |
Pennaeth y Llywodraeth | Donald Tusk |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $679,442 million, $688,177 million |
Arian | złoty |
Canran y diwaith | 3 ±2 canran |
Cyfartaledd plant | 1.29 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.876 |
Gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Gwlad Pwyl neu Gwlad Pwyl. Mae'n ffinio ar Yr Almaen yn y gorllewin, Gweriniaeth Tsiec a Slofacia yn y de, Yr Wcráin a Belarws yn y dwyrain, a Lithwania a Rhanbarth Kaliningrad, sy'n rhan o Rwsia, yn y gogledd. Mae Gwlad Pwyl ar lan y Môr Baltig. Warszawa (Warsaw) yw'r brifddinas. Mae Gwlad Pwyl yn Yr Undeb Ewropeaidd ac yn aelod o NATO.
Mae Gwlad Pwyl yn ymestyn o'r traethau ar hyd y Môr Baltig yn y gogledd i fynyddoedd Sudetes a Carpatiau yn y de. Mae Lithwania a Rwsia (Oblast Kaliningrad) yn ffinio â'r wlad i'r gogledd-ddwyrain, Belarus a'r Wcráin i'r dwyrain, Slofacia a'r Weriniaeth Tsiec i'r de, a'r Almaen i'r gorllewin.[1]
Mae hanes gweithgaredd dynol ar bridd Gwlad Pwyl yn rhychwantu miloedd o flynyddoedd. Trwy gydol y cyfnod hynafol hwyr roedd ynddi wahanol ddiwylliannau a llwythau yn ymgartrefu ar wastadedd helaeth Canol Ewrop . Fodd bynnag, y Polaniaid Gorllewinol oedd yn dominyddu'r rhanbarth ac a roddodd eu henw i Wlad Pwyl. Gellir olrhain sefydlu gwladwriaeth Gwlad Pwyl i 966, pan gofleidiodd rheolwr paganaidd teyrnas Gristnogol a'i throsi'n wlad Babyddol. Sefydlwyd Teyrnas Gwlad Pwyl yn 1025 ac ym 1569 cadarnhaodd ei chysylltiad gwleidyddol hirsefydlog â Lithwania trwy arwyddo Undeb Lublin. Ffurfiodd yr undeb hwn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, un o'r mwyaf o ran maint a phoblogaeth drwy Ewrop yr 16eg a'r 17g gyda system wleidyddol ryddfrydol unigryw ac a fabwysiadodd gyfansoddiad modern cyntaf Ewrop, sef Cyfansoddiad 3 Mai 1791.[2][3][4]
Ar ddiwedd y 18g rhannwyd y wlad gan wladwriaethau cyfagos ond adenillodd ei hannibyniaeth ym 1918 gyda Chytundeb Versailles. Ar ôl cyfres o wrthdaro tiriogaethol, fe adferodd y wlad ei safle fel chwaraewr allweddol yng ngwleidyddiaeth Ewrop. Ym Medi 1939, cychwynnodd yr Ail Ryfel Byd gyda goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen, ac yna'r Sofietiaid yn goresgyn Gwlad Pwyl yn unol â Chytundeb Molotov-Ribbentrop. Bu farw oddeutu chwe miliwn o ddinasyddion Gwlad Pwyl, gan gynnwys tair miliwn o Iddewon y wlad, yn ystod y rhyfel.[5] Fel aelod o'r Bloc Dwyreiniol, cyhoeddodd Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl ar unwaith fod yn un o brif lofnodwyr Cytundeb Warsaw yng nghanol tensiynau byd-eang y Rhyfel Oer. Yn sgil digwyddiadau 1989, yn benodol trwy ymddangosiad a chyfraniadau’r mudiad undebol Solidarność, diddymwyd y llywodraeth gomiwnyddol ac ailsefydlodd Gwlad Pwyl ei hun fel gweriniaeth ddemocrataidd.
Mae Gwlad Pwyl yn farchnad ddatblygedig,[6] ac yn bŵer canol. Mae ganddi'r chweched economi fwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd yn ôl CMC enwol a'r bumed fwyaf yn ôl CMC (PPP).[7] Mae ei safonau byw, diogelwch a rhyddid economaidd yn uchel iawn,[8][9][10] yn ogystal ag addysg brifysgol am ddim a system gofal iechyd cyffredinol effeithiol.[11][12] Mae gan y wlad 17 o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO 15 ohonynt yn ddiwylliannol.[13] Mae Gwlad Pwyl yn aelod-wladwriaeth yn Ardal Schengen, ac o'r Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, NATO, yr OECD, y Menter Tri Môr a Grŵp Visegrád.
Mae enw brodorol y wlad Polska yn deillio o lwyth Lechitig o'r enw y Polansiaid Gorllewinol, a oedd yn byw ym masn afon Warta o ganol y 6g ymlaen.[14] Mae enw'r llwyth ei hun yn deillio o'r Slafeg *poľe ‘cae, maes’ o'r Indo-Ewropeg *pleh₂- ‘gwastadedd’.[14][15] Mae'r geirdarddiad yma'n disgrifio topograffeg y rhanbarth i'r dim: tirwedd gwastad.[16] Ffurfiwyd yr enw Saesneg Poland yn y 1560au o'r Almaeneg Pole ‘Pwyliad’ a'r ôl-ddodiad land, gan ddynodi pobl neu genedl.[17][18] Cyn hynny, defnyddiwyd y ffurf Ladin Polonia yn helaeth ledled Ewrop yr Oesoedd Canol.[19] Cofnodir y gair Cymraeg 'Pwyliaid' (y bobl) a 'Pwyl' (y wlad) ill dau yn 1816.
Mewn rhai ieithoedd, megis Hwngari, Lithwaneg, Perseg a Hen Norwyeg, enw'r wlad yn deillio o "Lechia", sydd yn ei dro'n deillio o "Lech", rheolwr chwedlonol ar lwythau Gwlad Pwyl (Lechites),[20] neu o'r Lendiaid a drigodd yn ne-ddwyrain eithaf Gwlad Pwyl heddiw.[14] Mae tarddiad enw'r llwyth yn gorwedd yn yr hen air Pwyleg lęda (plaen), sy'n gytras o'r Almaeneg "das Land", Sbaeneg "landa" a'r Saesneg "land".[21] I ddechrau, defnyddiwyd y ddau enw Lechia a Polonia yn gyfnewidiol wrth gyfeirio at Wlad Pwyl gan groniclwyr yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar ac Uchel.[22][23]
Ymsefydlodd bodau dynol hynafol cyntaf Oes y Cerrig a rhywogaethau Homo erectus yn yr ardal a elwir heddiw'n 'Wlad Pwyl' tua 500,000 o flynyddoedd yn ôl, er i'r hinsawdd elyniaethus ddilynol atal bodau dynol cynnar rhag sefydlu gwersylloedd mwy parhaol.[24] Mae tystiolaeth bod grwpiau achlysurol o Neanderthaliaid (helwyr-casglwyr) wedi treiddio i ranbarthau de Gwlad Pwyl yn ystod y cyfnod rhyngrewlifol Eemaidd (128,000–115,000 BCE) ac yn y milenia dilynol.[25] Roedd dyfodiad Homo sapiens a bodau dynol modern anatomegol yn cyd-daro â'r diffyg parhad hinsoddol ar ddiwedd y Cyfnod Rhewlifol Olaf (10,000 CC), pan ddaeth hinsawdd Gwlad Pwyl fwyn, ac yn bosib ei gwladychu.[26] Nododd cloddiadau archaelolegol Neolithig ddatblygiad eang yma, yn yr oes honno; darganfuwyd y dystiolaeth gynharaf drwy Ewrop o wneud caws a ellir ei ddyddio i 5500 CC, a hynny yn Kuyavia Gwlad Pwyl,[27] ac mae'r pot Bronocice wedi'i endorri gyda'r darlun cynharaf hysbys o'r hyn a all fod yn gerbyd olwyn (3400 CC).[28]
Dechreuodd yr Oes Efydd gynnar yng Ngwlad Pwyl tua 2400 CC, tra cychwynnodd yr Oes Haearn tua 750 CC.[29] Yn ystod yr Oesoedd Efydd ac Haearn, daeth y diwylliant Lwsataidd a gysylltir yn agos gyda'r diwylliannau Celtaidd Hallstatt a La Tène, yn arbennig o amlwg. Y darganfyddiad archeolegol enwocaf o gynhanes a rhaghanes Gwlad Pwyl yw anheddiad caerog Biskupin (sydd bellach wedi'i ailadeiladu fel amgueddfa awyr agored), yn dyddio o ddiwylliant Lwsataidd diwedd yr Oes Efydd, tua 748 CC.[30]
Trwy gydol hynafiaeth (400 CC-500 OC), daeth llawer o grwpiau ethnig hynafol gwahanol i boblogi tiriogaeth Gwlad Pwyl heddiw, yn enwedig llwythau Celtaidd, Sgythiaidd, Germanaidd, Sarmataidd, Slafaidd a Baltig.[31] At hynny, cadarnhaodd canfyddiadau archeolegol bresenoldeb y Llengoedd Rhufeinig.[32]
Daeth llwythau Gwlad Pwyl i'r amlwg yn ystod y Cyfnod Ymfudo yng nghanol y 6g.[33] Tarddiad Slafaidd Gorllewinol a Lechitig oedd y rhain yn bennaf, ond roeddent hefyd yn cynnwys grwpiau ethnig a fu'n byw yn yr ardal am filoedd o flynyddoedd.[34] Efallai bod y cymunedau cynharach wedi bod yn gysylltiedig â diwylliannau hynafol Wielbark a Przeworsk.[35][36]
Dechreuodd Gwlad Pwyl ffurfio yn endid daearyddol ac ieithyddol unigryw tua chanol y o dan linach Piast . Derbyniodd rheolwr cyntaf Gwlad Pwyl, Mieszko I, Gristnogaeth y Gorllewin fel y grefydd haeddiannol dan adain yr Eglwys Ladin gyda'r hyn a elwir yn "Bedydd Gwlad Pwyl" yn 966 OC.[37] Bedyddiwyd Mieszko ar 14 Ebrill 966 a Christnogwyd y wlad yn dilyn hynny. Yn 1000, cynhaliodd Boleslaus I Ddewr, gan barhau â pholisi ei dad Mieszko, gyngres ddiplomyddol bwysig, a sefydlodd y metropolis Gniezno ac yna esgobaethau yn Kraków, Kołobrzeg, ac Wrocław.[38] Cydsyniodd Otto III, Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd, i greu esgobaethau a rhoi regalia brenhinol Boleslaus a replica o'r Picell Sanctaidd, a ddefnyddiwyd ar gyfer ei goroni fel Brenin cyntaf Gwlad Pwyl tua 1025.[39] Ehangodd y deyrnas yn sylweddol trwy gipio rhannau o Lwsatia o'r Almaen, Moravia oddi wrth y Tsieciaid, Hwngari Uchaf a'r taleithiau dwyreiniol.[40][41] Collodd ei fab, Mieszko II Lambert, y teitl fel brenin a ffodd yng nghanol y brwydrau am bŵer yn 1031, ond cafodd ei adfer fel dug yn 1032.[42] Arweiniodd yr aflonyddwch at drosglwyddo'r brifddinas i Kraków yn 1038 gan Casimir I yr Adferwr.[43]
Mae strwythur daearegol Gwlad Pwyl wedi cael ei lunio gan wrthdrawiad cyfandirol Ewrop ac Affrica dros y 60 miliwn o flynyddoedd, ac yn fwy diweddar, gan rewlifiannau Cwaternaidd gogledd Ewrop.[44] Lluniodd y ddwy broses yma y Sudetes a'r Mynyddoedd Carpathia. Mae'r Jura Pwylaidd, y Pieniny, a'r Tatras Gorllewinol yn galchfaen, gan fwyaf, ond mae'r Tatras Uchel, y Beskids, a mynyddoedd Karkonosze yn wenithfaen a basalts yn bennaf. Mae gan Gadwyn Jura Gwlad Pwyl rai o'r ffurfiannau creigiau hynaf ar gyfandir Ewrop.[45]
Mae gan Wlad Pwyl dros 70 o fynyddoedd sydd dros 2,000 metr (6,600 tr) mewn drychiad, pob un wedi'i leoli yn y Tatras.[46] Pwynt uchaf Gwlad Pwyl yw copa gogledd-orllewinol Mynydd Rysy sy'n 2,499 metr. Wrth ei droed mae llynnoedd mynydd Czarny Staw (Llyn Du) a Morskie Oko (Llygad y Môr).[47] Mae'r ucheldiroedd nodedig eraill yn cynnwys Mynyddoedd Pieniny a Groes Sanctaidd, Mynyddoedd y Byrddau a nodwyd am eu ffurfiannau creigiau anarferol, y Bieszczady yn ne-ddwyrain pellaf y wlad lle mae'r copa uchaf Tarnica, sy'n 1,346 m,[48] a Mynyddoedd Gorce y gyda'u pwynt uchaf, Turbacz yn 1,312 metr.[49] Pwynt uchaf y massif Sudeten yw Mount Śnieżka sy'n 1,603 m, ac sy'n cael ei rannu gyda'r Weriniaeth Tsiec.[50]
Mae'r pwynt isaf yng Ngwlad Pwyl yn 1.8 metr (5.9 tr) islaw lefel y môr - yn Raczki Elbląskie, ger Elbląg yn Delta Vistula.
Mae'r rhan fwyaf o Wlad Pwyl yn wastatir a thir isel, ac yn rhan o Wastatir Mawr Ewrop. Yn y gogledd ymestynna Gwastatir Arfordirol y Baltig ar hyd yr arfordir â'r Môr Baltig. Yn yr ardal hanesyddol a elwir Pwyl Fechan mae tiroedd uwch a llwyfandir a leolir i'r gogledd o Fynyddoedd Sudety yn y de-orllewin a'r Carpatiau yn y de-ddwyrain. Saif yr ardal o'r Carpatiau a elwir y Tatra ar y ffin â Slofacia, a dyma copa uchaf Gwlad Pwyl, Mynydd Rysy (2499 m). Prif afonydd y wlad yw'r Vistula a'r Oder.
Yr afonydd hiraf yw'r Vistula 1,047 km, yr Oder, sy'n rhan o ffin orllewinol Gwlad Pwyl ac sy'n 854 km o hyd, ei llednant, y Warta, sy'n 808 km a'r Bug, un o lednentydd y Vistula sy'n 772 km. Mae'r Vistula a'r Oder yn llifo i'r Môr Baltig, fel y mae nifer o afonydd llai ym Mhomerania.[51] Mae dyfrffyrdd hir Gwlad Pwyl wedi cael eu defnyddio ers y cyfnod cynnar ar gyfer llongau; mentrodd y Llychlynwyr i fyny afonydd Gwlad Pwyl yn eu llongau.[52] Yn yr Oesoedd Canol ac yn y cyfnod modern cynnar, roedd cludo nwyddau i lawr y Vistula tuag at Gdańsk ac ymlaen i rannau eraill o Ewrop yn bwysig iawn.[53]
Gyda bron i ddeng mil o gyrff dŵr caeedig megis llynnoedd dros 1 hectar (2.47 acr) yr un, mae gan Wlad Pwyl un o'r niferoedd uchaf o lynnoedd yn y byd. Yn Ewrop, dim ond y Ffindir sydd â dwysedd mwy o lynnoedd.[54] Y llynnoedd mwyaf, sy'n gorchuddio mwy na 100 km sgwar yw Llyn Śniardwy a Llyn Mamry ym Masuria yn ogystal â Llyn Łebsko a Llyn Drawsko ym Mhomerania. Y llyn gyda'r dyfnder mwyaf - o fwy na chan metr yw Llyn Hańcza yn Ardal y Llyn Wigry, i'r dwyrain o Masuria yn Voivodeship Podlaskie.
Mae arfordir Baltig Gwlad Pwyl oddeutu 770 km o hyd ac yn ymestyn o Świnoujście ar ynysoedd Usedom a Wolin yn y gorllewin i Krynica Morska ar y Vistula yn y dwyrain.[55] Ar y cyfan, mae gan Wlad Pwyl arfordir llyfn, sydd wedi'i siapio gan symudiad parhaus tywod gan geryntau a gwyntoedd. Mae'r erydiad a'r dyddodiad parhaus hwn wedi ffurfio clogwyni, twyni a phenrhynau.
Yn nyffryn afon Pilica yn Tomaszów Mazowiecki mae ffynnon carst naturiol - ac unigryw - o ddŵr sy'n cynnwys halwynau calsiwm, sy'n ardal warchodol, yng Ngwarchodfa Natur y Ffynhonnau Glas, ym Mharc Tirwedd Sulejów. Mae'r tonnau coch yn cael eu hamsugno gan ddŵr, felly dim ond glas a gwyrdd sy'n cael eu hadlewyrchu o waelod y ffynnon, gan roi lliw arbennig i'r dŵr.[56]
Mae coedwigoedd yn gorchuddio tua 29.6% o arwynebedd tir Gwlad Pwyl ar sail safonau rhyngwladol.[57] Mae ei ganran gyffredinol yn dal i gynyddu, gyda choedwigoedd Gwlad Pwyl yn cael eu rheoli gan y rhaglen genedlaethol ailgoedwigo (KPZL), gyda'r nod o gynyddu gorchudd coedwig i 33% yn 2050. Y cyfadeilad coedwig mwyaf yng Ngwlad Pwyl yw'r Silesia Isaf.[57]
Mae dros 1% o Wlad Pwyl, wedi'i warchod o fewn 23 parc cenedlaethol Pwylaidd.[58] Rhagwelir tri pharc cenedlaethol arall ar gyfer Masuria, y Jura Pwylaidd, a'r Beskids dwyreiniol. Yn ogystal, mae gwlyptiroedd ar hyd llynnoedd ac afonydd yng nghanol Gwlad Pwyl wedi'u diogelu'n gyfreithiol, fel y mae ardaloedd arfordirol y gogledd. Ceir 123 o ardaloedd wedi'u dynodi'n barciau tirwedd, ynghyd â nifer o warchodfeydd natur ac ardaloedd gwarchodedig eraill o dan rwydwaith Natura 2000., sef prosiect Ewropeaidd.[59]
Yn 2017, roedd oddeutu 16,400,000 hectar (164,000 km2) o dir, dros hanner cyfanswm arwynebedd Gwlad Pwyl, yn dir fferm amaethyddol.[60]
Gellir dweud fod Gwlad Pwyl yn perthyn i dalaith Canol Ewrop yn y Rhanbarth Circumboreal yn y Deyrnas Boreal. Yn ôl y Gronfa Byd-eang ar gyfer Natur, mae tiriogaeth Gwlad Pwyl yn perthyn i dri Ecoranbarth Palearctig y goedwig gyfandirol sy'n rhychwantu ecoranbarthau llydanddail tymherus Canol a Gogledd Ewrop ac ecoranbarthau coedwig gymysg, yn ogystal â choedwig gonwydd mynyddig y Carpathia. Y coed collddail mwyaf cyffredin a geir ledled y wlad yw derw, masarn, a ffawydd; y conwydd mwyaf cyffredin yw pinwydd, sbriws a ffynidwydd.[61] Amcangyfrifir bod 68.7% o'r holl goedwigoedd yn gonwydd.[62]
Yn hanesyddol mae Gwlad Pwyl wedi bod yn gartref i rywogaethau prin o anifeiliaid, yn ogystal â'r ddwy famal Ewropeaidd fwyaf: y bual Ewropeaidd (żubr) a'r cynfual (tur). Diflannodd cynfual olaf yr Ewrop ym 1627 yng Nghoedwig Jaktorów Pwyl, tra goroesodd y bual hyd yr 20g yn Białowieża yn unig. Mae wedi cael ei ailgyflwyno i wledydd eraill ers hynny.[63] Mae rhywogaethau gwyllt eraill yn cynnwys yr arth frown yn Białowieża, yn y Tatras, ac yn y Beskids; y blaidd llwyd a'r lyncs Ewrasiaidd mewn amrywiol goedwigoedd; yr elc yng ngogledd Gwlad Pwyl; a'r afanc ym Masuria, Pomerania, a Podlaskie.[64]
Mae anifeiliaid hela fel ceirw coch, iyrchod, a baeddod gwyllt i'w cael yn y mwyafrif o goetiroedd. Mae Dwyrain Gwlad Pwyl yn gyfoethog o goedwigoedd hynafol, fel Coedwig Białowieża, nad yw gweithgaredd dynol na diwydiannol wedi aflonyddu dim arnynt. Ceir hefyd ardaloedd coediog mawr ym mynyddoedd, Gwlad Pwyl Fwyaf, Pomerania, Tir Lubusz, a Silesia Isaf. Ar hyn o bryd Voivodeship Lubusz yw'r dalaith fwyaf coediog yn y wlad; Mae 52% o'i diriogaeth yn goedwigoedd.[65]
Mae Gwlad Pwyl hefyd yn fagwrfa sylweddol i amrywiaeth o adar mudol Ewropeaidd.[66] Mae chwarter y boblogaeth fyd-eang o'r Ciconia gwyn (40,000 o barau bridio) yn byw yng Ngwlad Pwyl,[67] yn enwedig yn ardaloedd y llynnoedd a'r gwlyptiroedd ar hyd y Biebrza, yr Narew, a'r Warta, sy'n rhan o warchodfeydd natur neu barciau cenedlaethol.
Mae economi Gwlad Pwyl yn gymysgedd o ddiwydiannau cynradd ac eilaidd. Tyfir rhyg, gwenith, haidd, ceirch, tatws, a betys siwgr. Yn ardal Silesia mae'r ardal lo gyfoethocaf yn Ewrop. Prif ddiwydiannau eilaidd y wlad yw adeiladu llongau, gweithgynhyrchu ceir, peiriannau ac offer trydanol, prosesu bwyd, a tecstilau.
Yn hanesyddol, bu'r diriogaeth sydd heddiw o fewn ffiniau Gwlad Pwyl yn gartref i nifer o grwpiau ethnig. Cafodd y boblogaeth Iddewig ei difa bron yn gyfangwbl yn yr Holocost, a chafodd y niferoedd uchel o Almaenwyr ethnig eu gyrru allan o'r wlad wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Bellach, mae Pwyliaid ethnig yn cyfrifo am 98% o'r boblogaeth, ac Almaenwyr yn cyfrifo am ryw 1% arall.
Pwyleg yw iaith y wlad. Mae'n perthyn i'r gangen orllewinol o deulu'r ieithoedd Slafonaidd.
Poland had actually managed to pass a first progressive constitution on 3, Mai 1795; this was Europes first written constitution.
Możemy jedynie stwierdzić, że kultura łużycka nie tworzyła jednej zwartej całości. Jak się wydaje, jej skład etniczny był niejednorodny.
... w wersji Anonima Minoryty mówi się znowu, iż w Polsce "paliły się kościoły i klasztory", co koresponduje w przekazaną przez Anonima Galla wiadomością o zniszczeniu kościołów katedralnych w Gnieźnie...
Commonwealth became the breadbasket of Western Europe, wrote Timothy Snyder, thanks to the presence of fertile southeastern regions of Podolia and east Galicia.
Insert: Poland is home to 9,300 lakes. Finland is the only European nation with a higher density of lakes than Poland.
|