Suomen tasavalta | |
Arwyddair | O na bawn yn y Ffindir |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth unedol, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig |
Enwyd ar ôl | Ffiniaid |
Prifddinas | Helsinki |
Poblogaeth | 5,608,218 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Maamme/Vårt land |
Pennaeth llywodraeth | Petteri Orpo |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Nawddsant | Sant Harri o'r Ffindir |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffinneg, Swedeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ffenosgandia, Gwledydd Nordig, Gogledd Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd |
Arwynebedd | 338,478.34 km² |
Gerllaw | Y Môr Baltig |
Yn ffinio gyda | Sweden, Norwy, Rwsia |
Cyfesurynnau | 65°N 27°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth y Ffindir |
Corff deddfwriaethol | Senedd y Ffindir |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd y Fffindir |
Pennaeth y wladwriaeth | Alexander Stubb |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog y Ffindir |
Pennaeth y Llywodraeth | Petteri Orpo |
Crefydd/Enwad | Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Ffindir, Eglwys Uniongred Ffindir |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $296,388 million, $280,826 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 9 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.75 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.94 |
Ffindir (hefyd Gweriniaeth y Ffindir) yw'r wlad Nordig fwyaf dwyreiniol yng Ngogledd Ewrop . Mae'n ffinio â Sweden i'r gogledd-orllewin, Norwy i'r gogledd, a Rwsia i'r dwyrain, gyda Gwlff Bothnia i'r gorllewin a Gwlff y Ffindir i'r de, gyferbyn ag Estonia. Arwynebedd Ffindir yw 338,145 cilometr sgwar (130,559 milltir sgwar) ac mae ganddi boblogaeth o 5.6 miliwn. Helsinki yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf; o ran poblogaeth, mae tua'r un maint a'r Alban, sef XXX Ffiniaid ethnig yw mwyafrif helaeth y boblogaeth; Ffinneg a Swedeg yw'r ieithoedd swyddogol, gyda Swedeg yn iaith frodorol i 5.2% o'r boblogaeth.[1] Mae hinsawdd y Ffindir yn amrywio o hinsawdd gyfandirol llaith yn y de i hinsawdd boreal yn y gogledd. Coedwigoedd boreal yw'r gorchudd tir yn bennaf, gyda mwy na 180,000 o lynnoedd wedi'u cofnodi.[2]
Ceir olion dynol yma o tua 9,000 CC ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf.[3] Yn ystod Oes y Cerrig, daeth diwylliannau amrywiol i'r amlwg, a gellir gwahaniaethu rhyngddyn nhw drwy edrych ar eu gwahanol fathau o serameg. Cafodd yr Oes Efydd a'r Oes Haearn eu nodi gan gysylltiadau â diwylliannau eraill yn Fennoscandia a rhanbarth y Baltig.[4] O ddiwedd y 13g, daeth y Ffindir yn rhan o Sweden o ganlyniad i Groesgadau'r Gogledd. Ym 1809, o ganlyniad i Ryfel y Ffindir, daeth y Ffindir yn rhan o Ymerodraeth Rwsia fel Prif Ddugiaeth ymreolaethol y Ffindir. Yn ystod y cyfnod hwn, ffynnodd celf y Ffindir a dechreuodd y syniad o annibyniaeth gydio. Ym 1906, y Ffindir oedd y wladwriaeth Ewropeaidd gyntaf i roi pleidlais gyffredinol i'w dinasyddion, a'r gyntaf yn y byd i roi'r hawl i bob oedolyn heisio am swydd gyhoeddus.[5][6] Yn dilyn Chwyldro Rwsia yn 1917, datganodd y Ffindir ei hannibyniaeth oddi wrth Rwsia, ar 6ed o Ragfyr. Ym 1918 rhannwyd y genedl ifanc gan Ryfel Cartref y Ffindir. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdodd y Ffindir yn erbyn yr Undeb Sofietaidd yn Rhyfel y Gaeaf a'r Rhyfel Parhad, ac yn ddiweddarach yn erbyn yr Almaen Natsïaidd yn Rhyfel Lapdir. O ganlyniad, collodd rannau o'i diriogaeth ond cadwodd ei hannibyniaeth.
Parhaodd y Ffindir yn wlad amaethyddol yn bennaf tan y 1950au. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, diwydiannodd yn gyflym a sefydlodd economi ddatblygedig, gyda gwladwriaeth les wedi'i hadeiladu ar y model Nordig. Caniataodd hyn i'r ffynnu a chafwyd incwm uchel y pen.[7] Yn ystod y Rhyfel Oer, cofleidiodd y Ffindir yn swyddogol bolisi o niwtraliaeth. Ers hynny, daeth yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn 1995, yn Ardal yr Ewro yn 1999, ac yn aelod o NATO yn 2023. Mae'r Ffindir yn aelod o sefydliadau rhyngwladol amrywiol gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, y Cyngor Nordig, Ardal Schengen, Cyngor Ewrop, Sefydliad Masnach y Byd, a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae'r genedl yn perfformio'n arbennig o dda mewn metrigau perfformiad cenedlaethol, gan gynnwys addysg, cystadleurwydd economaidd, rhyddid sifil, ansawdd bywyd, a datblygiad dynol.[8][9][10][11]
Ymsefydlodd pobl yn yr ardal a elwir heddiw'n Ffindir, tua 8,500 CC yn ystod Oes y Cerrig tua diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf. Mae gan lawer o'r arteffactau a adawodd y gwladfawyr cyntaf ar ôl nodweddion tebyg iawn i'r rhai a geir yn Estonia, Rwsia, a Norwy.[12] Helwyr-gasglwyr oedd y bobl gynharaf hyn, ac roedden nhw'n defnyddio offer carreg.[13]
Ymddangosodd y crochenwaith cyntaf yn 5,200 CC, pan gyflwynwyd y diwylliant 'Cerameg Crib'. [14] Yna daeth 'Crochenwaith Cordeddog' i arfordir deheuol y Ffindir rhwng 3,000 a 2,500 CC cyfnod sy'n cyd-daro â dechrau amaethyddiaeth.[15] Hyd yn oed gyda chyflwyniad amaethyddiaeth, roedd hela a physgota'n parhau i fod yn rhannau pwysig o'r economi a'r ffordd o fyw.
Yn yr Oes Efydd ymledodd amaethu parhaol trwy gydol y flwyddyn ac felly hwsmonaeth anifeiliaid hefyd, ond arafodd y newid oherwydd cyfnod o hinsawdd oer iawn.[18] Daeth y ffenomen Seima-Turbino â'r arteffactau efydd cyntaf i'r rhanbarth ac o bosibl hefyd yr ieithoedd Finno-Ugric.[18][19] Dechreuodd cysylltiadau masnachol ymestyn i Sgandinafia a dechreuodd gweithgynhyrchu o arteffactau efydd mewn cartrefi yn1300 CC.[20]
Yn yr Oes Haearn tyfodd y boblogaeth. Ffindir Fwyaf (sef y De-Orllewin) oedd yr ardal fwyaf poblog. Tyfodd ac ymestynnodd cysylltiadau masnachol yn rhanbarth Môr y Baltig yn ystod yr 8g a'r 9g. Y prif allforion o'r Ffindir oedd ffwr, caethweision, sachau'r afanc, a hebogiaid i lysoedd Ewropeaidd. Roedd mewnforion yn cynnwys sidan a ffabrigau eraill, gemwaith, cleddyfau Ulfberht, ac, i raddau llai, gwydr. Dechreuwyd cynhyrchu haearn tua 500 CC [21] Ar ddiwedd y 9g, roedd gan ddiwylliant arteffactau brodorol, yn enwedig arfau a gemwaith menywod, nodweddion lleol cyffredin nag erioed o'r blaen a dehonglir hyn i fod yn fynegiant o hunaniaeth y Ffindir.[22]
Ymledodd ffurf gynnar ar ieithoedd Ffinneg i ranbarth Môr y Baltig tua 1,900 CC. Roedd yr iaith Ffinneg gyffredin yn cael ei siarad o gwmpas Gwlff y Ffindir tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth y tafodieithoedd y datblygwyd yr iaith Ffinneg gyfoes ohonynt i fodolaeth yn ystod Oes yr Haearn.[23] Er eu bod yn perthyn o bell, cadwodd y Sami ffordd o fyw'r heliwr-gasglwr yn hirach na'r Ffindir. Mae hunaniaeth ddiwylliannol y Sami a'r iaith Sami wedi goroesi yn Lapdir, y dalaith fwyaf gogleddol.
Mae gan yr enw Suomi darddiad ansicr, ond y geirdarddiad mwyaf cyffredin yw ei fod yn tarddu o saame (y Sami).[24] Yn y ffynonellau hanesyddol cynharaf, o'r 12g a'r 13g, mae'r term Ffindir yn cyfeirio at y rhanbarth arfordirol o amgylch Turku. Daeth y rhanbarth hwn i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel 'Ffindir Fwyaf' er mwyn gwahaniaethu ag enw'r wlad.[25]
Roedd y 12g a'r 13g yn gyfnodau treisgar yng ngogledd Môr y Baltig. Roedd y Croesgad Livonaidd yn parhau ac roedd llwythau'r Ffindir ee y Tavasiaid a'r Kareliaid yn gwrthdaro'n aml â Novgorod ac â'i gilydd. Hefyd, yn ystod y 12g a'r 13g gwnaethpwyd sawl croesgad o deyrnasoedd Catholig ardal Môr y Baltig yn erbyn llwythau'r Ffindir. Ymladdodd Daniaid o leiaf dair croesgad yn erbyn pobl Ffindir, yn 1187 neu ychydig yn gynharach,[26] yn 1191 ac yn 1202,[27] ac Swedeiaid, o bosibl yr ail groesgad i'r Ffindir, ym 1249 yn erbyn Tafasiaid a'r drydedd groesgad i'r Ffindir yn 1293 yn erbyn y Kareliaid.[28]
O ganlyniad i'r croesgadau a gwladychu rhai ardaloedd arfordirol y Ffindir gyda phoblogaeth Swedaidd yn ystod yr Oesoedd Canol,[29] yn raddol daeth y Ffindir yn rhan o deyrnas Sweden a dylanwad yr Eglwys Gatholig.[30] O dan Sweden, atodwyd Ffindir fel rhan o drefn ddiwylliannol Gorllewin Ewrop.[31]
Swedeg oedd prif iaith yr uchelwyr, y weinyddiaeth, ac addysg; y Ffinneg oedd iaith y werin, y clerigwyr a'r llysoedd lleol yn bennaf yn yr ardaloedd Ffinneg eu hiaith. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, trodd y Ffiniaid yn raddol at yr Eglwys Lutheraidd.[32]
Yn yr 16g cyhoeddodd esgob a Diwygiwr Lutheraidd Mikael Agricola y gweithiau ysgrifenedig cyntaf yn Ffinneg; [33] a sefydlwyd prifddinas bresennol y Ffindir, Helsinki, gan y Brenin Gustav Vasa yn 1555.[34] Sefydlwyd y brifysgol gyntaf yn y Ffindir, sef Academi Frenhinol Turku, gan y Frenhines Christina o Sweden ar gynnig iarll Per Brahe yn 1640.[35][36]
Yn y 18g, arweiniodd rhyfeloedd rhwng Sweden a Rwsia ddwywaith at feddiannu'r Ffindir gan luoedd Rwsia, amseroedd a adwaenir yn y Ffindir fel y Digofaint Mwawr (1714–1721) a'r DigofaintBach (1742–1743).[37] [38] Amcangyfrifir miloedd o ddynion wedi marw yn ystod y Digofaint Mwawr yn bennaf oherwydd dinistrio cartrefi, ffermydd, a llosgi Helsinki.[39]
Mae'r VR sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn gweithredu rhwydwaith rheilffordd ac yn gwasanaethu holl ddinasoedd mawr y Ffindir. Ar ôl Chwyldro Chwefror 1917, cwestiynwyd safle'r Ffindir fel rhan o Ymerodraeth Rwsia, yn bennaf gan y Democratiaid Cymdeithasol. Pasiodd Senedd y Ffindir, a reolwyd gan ddemocratiaid cymdeithasol, yr hyn a elwir yn Ddeddf Pwer a roddodd cryn awdurdod i'r Senedd. Gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth Dros Dro Rwsia a benderfynodd ddiddymu'r Senedd.[40] Cynhaliwyd etholiadau newydd, lle'r enillodd pleidiau asgell dde gyda mwyafrif bychan. Roedd rhai democratiaid cymdeithasol yn gwrthod derbyn y canlyniad ac yn dal i honni bod diddymu'r senedd (ac felly'r etholiadau dilynol) yn anghyfreithiol. Roedd y ddau floc gwleidyddol bron yr un mor bwerus, y pleidiau asgell dde, a'r blaid gymdeithasol-ddemocrataidd a oedd wedi'u cythruddo'n fawr.
Newidiodd Chwyldro Hydref Rwsia y sefyllfa daear-wleidyddol unwaith eto. Yn sydyn, dechreuodd y pleidiau asgell dde'r Ffindir ailystyried eu penderfyniad i rwystro trosglwyddo’r pŵer gweithredol uchaf o lywodraeth Rwsia i’r Ffindir, wrth i’r Bolsieficiaid gipio grym yn Rwsia. Cyflwynodd y llywodraeth asgell dde, dan arweiniad y Prif Weinidog PE Svinhufvud, y Datganiad Annibyniaeth ar 4 Rhagfyr 1917, a gymeradwywyd yn swyddogol ar 6 Rhagfyr, gan Senedd y Ffindir. Cydnabu Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsia (RSFSR), dan arweiniad Vladimir Lenin, annibyniaeth Ffindir ar 4 Ionawr 1918.[41]
Ar ôl arbrawf byr gyda brenhiniaeth, pan gafwyd ymgais aflwyddiannus i wneud y Tywysog Frederick Charles o Hesse yn Frenin y Ffindir, daeth y Ffindir yn weriniaeth arlywyddol, gyda KJ Ståhlberg yn cael ei ethol yn arlywydd cyntaf yn 1919. Fel cenedlaetholwr rhyddfrydol gyda chefndir cyfreithiol, angorodd Ståhlberg y wladwriaeth mewn democratiaeth ryddfrydol, cefnogodd reolaeth y gyfraith, a chychwynnodd ar ddiwygiadau mewnol.[42] Roedd y Ffindir hefyd yn un o'r gwledydd Ewropeaidd cyntaf i anelu'n gryf at gydraddoldeb i fenywod, gyda Miina Sillanpää yn gwasanaethu yng nghabinet Väinö Tanner fel y gweinidog benywaidd cyntaf yn hanes y Ffindir yn 1926–192.[43] Diffiniwyd y ffin rhwng y Ffindir a Rwsia yn 1920 gan Gytundeb Tartu, yn dilyn y ffin hanesyddol i raddau helaeth ond yn rhoi Pechenga a'i harbwr Môr Barents i'r Ffindir.[37] Goroesodd y mudiad gwrth-gomiwnyddol Lapua.
Ym 1917, pan ddaeth y Ffindir yn wlad annibynnol roedd y boblogaeth yn dair miliwnblogaeth Cymru yn 2024. Daeth diwygio tir ar sail credyd i rym ar ôl y rhyfel cartref, gan gynyddu cyfran y boblogaeth a oedd yn berchen ar gyfalaf.[44] Roedd tua 70% o'r gweithwyr yn gweithio mewn amaethyddiaeth a 10% mewn diwydiant.[45]
Lansiodd yr Undeb Sofietaidd Ryfel y Gaeaf ar 30 Tachwedd 1939 mewn ymdrech i atodi Ffindir yn rhan ohoni.[46] Sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Ffindir gan Joseph Stalin ar ddechrau'r rhyfel i lywodraethu'r Ffindir ar ôl y goncwest Sofietaidd.[47] Gorchfygwyd y Fyddin Goch mewn sawl brwydr, yn arbennig ym Mrwydr Suomussalmi. Ar ddiwedd Ionawr 1940, ar ôl dau fis heb fawr o gynnydd ar faes y gad, yn ogystal â cholledion difrifol o ddynion ac offer, rhoddodd y Sofietiaid y goraui o'w syniadau, gan gydnabod llywodraeth gyfreithiol y Ffindir.[48] Llwyddodd y Ffindir i amddiffyn ei hannibyniaeth, ond ildiodd 9% o'i thiriogaeth i'r Undeb Sofietaidd.
Arweiniodd sefydlu masnach gyda phwerau'r Gorllewin a thalu iawndal i'r Undeb Sofietaidd at drawsnewid y Ffindir o economi amaethyddol yn bennaf i un ddiwydiannol. Sefydlwyd Valmet (iard longau yn wreiddiol, yna sawl gweithdy metel) i greu deunyddiau. Ar ôl talu'r iawndaliadau rhyfel, parhaodd y Ffindir i fasnachu â'r Undeb Sofietaidd mewn fframwaith ddwyochrog.
Cynhaliodd y Ffindir eu heconomi drwy fasnachu ac elwodd diwydiannau amrywiol o fasnachu gyda'r Sofietiaid. Cafwyd twf economaidd cyflym yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, ac erbyn 1975 roedd CMC y pen y Ffindir y 15fed uchaf yn y byd. Yn y 1970au a'r 1980au, adeiladodd y Ffindir un o wladwriaethau lles mwyaf helaeth a llwyddiannus yn y byd. Trafododd y Ffindir gytundeb gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd) gan ddechrau o 1977. Ym 1981, fe wnaeth iechyd gwael yr Arlywydd Urho Kekkonen ei orfodi i ymddeol ar ôl dal ei swydd am 25 mlynedd.
Cafwyd dirwasgiad dwfn yn y 1990au cynnar yn y Ffindir a daeth i ben ym 1993, a gwelodd y Ffindir dwf economaidd cyson am fwy na deng mlynedd.[49] Ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, trodd y Ffindir ei olwg fwyfwy tua'r Gorllewin. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1995, ac Ardal yr Ewro ym 1999. Ysgogwyd llawer o dwf economaidd diwedd y 1990au gan lwyddiant y gwneuthurwr ffonau symudol Nokia.[31]
Mae'r Ffindir yn gorwedd rhwng lledredau 60° a 70° N, a hydred 20° a 32° E, ac mae'n un o wledydd mwyaf gogleddol y byd. O brifddinasoedd y byd, dim ond Reykjavík sy'n gorwedd mwy i'r gogledd na Helsinki. Y pellter o'r pwynt mwyaf deheuol - Hanko yn Uusimaa - i'r mwyaf gogleddol - Nuorgam yn Lapdir - yw 1,160 cilometr (720 milltir).
Ceir tua 168,000 o lynnoedd (o arwynebedd mwy na 500 milltir sgwar) a 179,000 o ynysoedd.[50] Ei llyn mwyaf, Saimaa, yw'r pedwerydd mwyaf yn Ewrop. Ardal y Llynnoedd yw'r ardal sydd â'r nifer fwyaf o lynnoedd yn y wlad; mae llawer o ddinasoedd mawr yr ardal, yn fwyaf nodedig Tampere, Jyväskylä a Kuopio, wedi'u lleoli ger y llynnoedd mawr. Mae'r crynodiad mwyaf o ynysoedd i'w gael yn y de-orllewin, ym Môr yr Archipelago rhwng cyfandir y Ffindir a phrif ynys Åland.
Mae llawer o ddaearyddiaeth y Ffindir yn ganlyniad i Oes yr Iâ. Roedd y rhewlifoedd yn fwy trwchus ac yn para'n hirach yn Fennoscandia o gymharu â gweddill Ewrop. Mae eu heffeithiau erydu wedi gadael tirwedd y Ffindir yn eitha gwastad, yn bennaf gydag ychydig o fryniau a llai o fynyddoedd. Ei bwynt uchaf, yw Halti, sy'n 1,324 metr yng ngogledd eithaf Lapdir ar y ffin rhwng y Ffindir a Norwy. Gellir cymharu uchder Haiti i'r Wyddfa, sydd fymryn yn llai, sef 1,085 m. Y mynydd uchaf y mae ei gopa yn gyfan gwbl yn y Ffindir yw Ridnitšohkka sy'n 1,316 metr a saif yn union gerllaw Halti.
Ar ôl cael ei gywasgu o dan bwysau aruthrol y rhewlifoedd, mae tir mawr y Ffindir yn codi oherwydd yr adlam ôl-rewlifol. Mae'r effaith ar ei chryfaf o amgylch Gwlff Bothnia, lle mae'r tir yn codi'n raddol tua 1 centimetr y flwyddyn. O ganlyniad, mae hen wely'r môr yn troi ychydig ar y tro yn dir sych ac felly mae arwynebedd y wlad yn ehangu tua 7 cilometr sgwar yn flynyddol.[51] Mewn geiriau eraill, mae'r Ffindir yn codi o'r môr.[52]
Yn ffyto-ddaearyddol, rhennir y Ffindir rhwng ardaloedd yr Arctig, canolbarth Ewrop, ac ardaloedd gogleddol y Rhanbarth Circumboreal o fewn y Deyrnas Boreal. Yn ôl y WWF, gellir rhannu tiriogaeth y Ffindir yn dri ecoleg: y taiga Sgandinafaidd a Rwsiaidd, coedwigoedd cymysg Sarmatig, a choedwig bedw'r mynyddoedd a'r glaswelltiroedd.[53] Mae Taiga yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r Ffindir o ranbarthau gogleddol taleithiau deheuol i'r gogledd o Lapdir. Ar yr arfordir de-orllewinol, i'r de o linell Helsinki- Rauma, nodweddir coedwigoedd gan goedwigoedd cymysg, sy'n fwy nodweddiadol yn rhanbarth y Baltig. Yng ngogledd eithaf y Ffindir, ger y llinell y coed a Chefnfor yr Arctig, mae coedwigoedd bedw Montane yn gyffredin. Roedd gan y Ffindir sgôr gymedrig Mynegai Uniondeb Tirwedd Coedwig 2018 o 5.08/10, gan ei gosod yn 109fed yn fyd-eang allan o 172 o wledydd.[54]
Yn yr un modd, mae gan y Ffindir ystod amrywiol a helaeth o ffawna. Mae o leiaf chwe-deg o rywogaethau mamalaidd brodorol, 248 o rywogaethau adar, dros 70 o rywogaethau o bysgod, ac 11 o rywogaethau o ymlusgiaid a brogaod yno heddiw, gyda llawer ohonynt wedi mudo o wledydd cyfagos filoedd o flynyddoedd yn ôl. Y mamaliaid mawr yn y Ffindir yw'r arth frown, y blaidd llwyd, y wolverine a'r elc. Tri o'r adar mwyaf trawiadol yw alarch y Gogledd, yr alarch Ewropeaidd fawr (sef aderyn cenedlaethol y Ffindir); y Grugiar coed, aelod mawr o deulu'r rugiar ddu; ac eryrdylluan Ewrop. Ystyrir bod yr olaf yn ddangosydd pwysig o hen goedwigoedd ac mae ei niferoedd wedi bod yn dirywio oherwydd darnio'r tirwedd.[55]
Mae tua 24,000 o rywogaethau o bryfed yn gyffredin yn y Ffindir; ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae'r gacynen gyda llwythau o chwilod fel yr Onciderini hefyd yn gyffredin. Yr adar magu mwyaf cyffredin yw telor yr helyg, y ji-binc a'r coch dan adain.[56] O ryw saith-deg o rywogaethau o bysgod dŵr croyw, mae'r penhwyad gogleddol, y draenogod, yn doreithiog. Mae eog yr Iwerydd yn parhau i fod yn ffefryn gan y rhai sy'n frwd dros bysgota gwialen.
Mae Cyfansoddiad y Ffindir yn diffinio'r system wleidyddol; mae'n weriniaeth seneddol o fewn fframwaith democratiaeth gynrychioliadol(representative democracy) . Y Prif Weinidog yw person mwyaf pwerus y wlad. Gall dinasyddion gael eu hethol a phleidleisio mewn etholiadau seneddol, dinesig, arlywyddol ac etholiadau'r Undeb Ewropeaidd.
Pennaeth gwladwriaeth y Ffindir yw Llywydd y Weriniaeth. Bu gan y Ffindir am y rhan fwyaf o’i hannibyniaeth system lled-arlywyddol o lywodraeth, ond yn y degawdau diwethaf mae pwerau’r Arlywydd wedi dod yn fwy amgylchiadol, ac o ganlyniad mae’r wlad bellach yn cael ei hystyried yn weriniaeth seneddol.[57] Mae cyfansoddiad newydd a ddeddfwyd yn 2000, wedi gwneud y llywyddiaeth yn swydd seremonïol gan fwyaf, sy'n penodi'r Prif Weinidog a etholir gan y Senedd, ac sy'n penodi ac sy'n diswyddo gweinidogion eraill Llywodraeth y Ffindir ar argymheliad y Prif Weinidog. Ymhlith y dyletswyddau eraill y mae agor sesiynau seneddol, a chyflwyno anrhydeddau'r wladwriaeth. Serch hynny, mae'r Llywydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gysylltiadau tramor y Ffindir, gan gynnwys gwneud rhyfel a heddwch, ond heb gynnwys materion sy'n ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd.
Ar ben hynny, mae'r Llywydd yn ben ar Luoedd Amddiffyn y Ffindir fel y Prif Cadlywydd. Wrth arfer ei bwerau tramor ac amddiffyn, mae'n ofynnol i'r Llywydd ymgynghori â Llywodraeth y Ffindir, ond nid yw cyngor y Llywodraeth yn rhwym i dderbyn ei gyngorl. Yn ogystal, mae gan y Llywydd nifer o bwerau wrth gefn domestig, gan gynnwys yr awdurdod i roi feto ar ddeddfwriaeth, i roi pardwn, ac i benodi sawl swyddog cyhoeddus. Mae'r Cyfansoddiad hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd ddiswyddo gweinidogion unigol neu'r Llywodraeth gyfan ar bleidlais seneddol o ddiffyg hyder.[58]
Senedd unsiambrog (unicameral) sydd gan Ffindir , gyda 200 aelod o'i mewn; dyma awdurdod deddfwriaethol goruchaf y wlad. Gall y Senedd newid y cyfansoddiad a'r deddfau cyffredin, gall ddiswyddo'r cabinet, a gall ddiddymu'r feto arlywyddol. Nid yw ei weithredoedd yn agored i adolygiad barnwrol; asesir cyfansoddiad cyfreithiau newydd gan bwyllgor cyfraith gyfansoddiadol y senedd. Mae'r senedd yn cael ei hethol am dymor o bedair blynedd gan ddefnyddio dull cyfrannol D'Hondt o fewn nifer o etholaethau aml-sedd drwy'r rhanbarthau aml-aelod ar restr agored. Mae pwyllgorau seneddol amrywiol yn gwrando ar arbenigwyr ac yn paratoi deddfwriaeth.
Dywed Adran 6 o Gyfansoddiad y Ffindir: "Ni ddylid gwahaniaethu o ran rhyw, oedran, tarddiad, iaith, crefydd, cred, barn, iechyd, anabledd neu unrhyw reswm personol arall heb reswm derbyniol".[59]
Mae'r Ffindir wedi'i gosod yn uwch na'r cyfartaledd ymhlith gwledydd y byd mewn democratiaeth,[60] rhyddid y wasg,[61] a datblygiad dynol.[62] Mynegodd Amnest Rhyngwladol eu pryder ynghylch rhai materion yn y Ffindir, megis carcharu gwrthwynebwyr cydwybodol, a gwahaniaethu cymdeithasol yn erbyn pobl Romani ac aelodau o leiafrifoedd ethnig ac ieithyddol eraill.[63][64]
Yn 2022 roedd economi Ffindir y 16ed forau (o ran CMC (GDP) y pen, yn ol yr IMF. Yn ogystal, mae gan y Ffindir system les effeithiol iawn sy'n cwmpasu addysg am ddim a gofal iechyd cyffredinol, gan gyfrannu at ei henw da fel un o'r cenhedloedd cyfoethocaf.
Y sector gwasanaeth yw'r rhan fwyaf o'r economi, sef 66% o'r CMC, tra bod gweithgynhyrchu a mireinio yn cyfrif am 31%. Mae cynhyrchu cynradd yn cyfrif am 2.9% o'r economi.[65] Gweithgynhyrchu yw'r sector economaidd sylfaenol sy'n ymwneud â masnach dramor .[66] Y prif sectorau diwydiannol yn 2007 oedd electroneg (22%), peiriannau, cerbydau, a chynhyrchion metel peirianyddol eraill (21.1%), diwydiant coedwigaeth (13%), a chemegau (11%). Cyrhaeddodd y cynnyrch mewnwladol crynswth ei uchafbwynt yn 2021.[67] Mae'r Ffindir yn chweched yn y Mynegai Arloesedd Byd-eang 2023.[68]
Mae gan y Ffindir gryn dipyn o bren, mwynau (gan gynnwys haearn, cromiwm, copr, nicel ac aur ) ac adnoddau dŵr croyw. Ar gyfer y boblogaeth wledig, mae coedwigaeth, melinau papur ac amaethyddiaeth yn hynod o bwysig. Mae ardal Helsinki Fwyaf yn cyfrif am tua thraean o CMC y Ffindir. Gwasanaethau preifat yw'r cyflogwr mwyaf yn y wlad.
Mae gan y Ffindir y crynodiad uchaf o gwmnïau cydweithredol o'i gymharu â'i phoblogaeth.[69] ee mae cyflogwr preifat mwyaf y Ffindir, S-Group, a'r banc mwyaf, OP-Group, ill dau yn gwmnïau cydweithredol.
Mae system ffyrdd y Ffindir yn cael ei defnyddio gan y rhan fwyaf o draffig cargo a theithwyr mewnol. Mae'r wladwriaeth yn gwario tua €1 biliwn ar rwydwaith ffyrdd, yn flynyddol. Ymhlith priffyrdd y Ffindir, y mwyaf arwyddocaol a phrysuraf yw: Priffordd Turku, Priffordd Tampere, Priffordd Lahti, a chylchffyrdd I a III yn ardal fetropolitan Helsinki a Chylchffordd Tampere yn ardal drefol Tampere.[70]
Prif faesawyr teithwyr rhyngwladol yw Maes Awyr Helsinki, a hedfanodd tua 21 miliwn o deithwyr drwyddo yn 2019. Maes Awyr Oulu yw'r ail fwyaf gyda 1 miliwn o deithwyr yn 2019, a cheir 25 maes awyr arall.[71] Mae Finnair, Blue1, a Nordic Regional Airlines (Norra), Norwegian Air Shuttle (ASA) o Faes Awyr Helsinki yn gwerthu gwasanaethau awyr yn ddomestig ac yn rhyngwladol.
Mae'r Llywodraeth yn gwario tua €350 miliwn yn flynyddol ar gynnal rhwydwaith trenau 5,865 cilometr o hyd. Mae trafnidiaeth rheilffordd yn cael ei drin gan y Grŵp VR sy'n eiddo i'r wladwriaeth.[72] Agorwyd rheilffordd gyntaf y Ffindir yn 1862,[73] [74] a heddiw mae'n ffurfio rhan o Brif Linell y Ffindir, sy'n fwy na 800 cilomedr o hyd. Agorodd Helsinki system fetro fwyaf gogleddol y byd ym 1982.
Yn Harbwr Vuosaari yn Helsinki mae mwyafrif y llwythi cargo rhyngwladol yn cael eu trin, a hwn yw'r porthladd cynwysyddion mwyaf yn y Ffindir; ymhlith y rhai eraill mae Kotka, Hamina, Hanko, Pori, Rauma, ac Oulu . Ceir traffig teithwyr-troed o Helsinki a Turku, sydd â chysylltiadau fferi i Tallinn, Mariehamn, Stockholm a Travemünde. Mae llwybr Helsinki-Tallinn yn un o'r llwybrau prysuraf yn y byd.[75]
Gellid dweud bod Ffinneg Ysgrifenedig wedi bodoli ers i Mikael Agricola gyfieithu'r Testament Newydd i'r Ffinneg yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, ond ychydig o lenyddiaeth nodedig a ysgrifennwyd hyd at y 19g a dechrau Mudiad Rhamantaidd cenedlaethol y Ffindir. Ysgogodd hyn Elias Lönnrot i gasglu barddoniaeth werin Ffinneg a Karelian a'u trefnu a'u cyhoeddi fel y Kalevala, gwaith epig genedlaethol y Ffindir. Gwelodd yr oes gynydd yn y nifero feirdd a nofelwyr yn y Ffindir, yn arbennig yr awduron cenedlaethol Aleksis Kivi (Y Saith Brawd), Minna Canth, Eino Leino, a Juhani Aho . Ysgrifennai llawer o lenorion y deffroad cenedlaethol cynnar yn Swedeg, megis y bardd cenedlaethol JL Runeberg a Zachris Topelius.
Gellir rhannu cerddoriaeth werin y Ffindir yn gerddoriaeth ddawns Nordig a'r traddodiad hŷn o ganu cerddi, cerddi epig genedlaethol, y Kalevala. Dylanwadir ar lawer o gerddoriaeth glasurol y Ffindir gan alawon a geiriau traddodiadol y Ffindir a Karelian, fel y cynhwysir yn y Kalevala. Yn rhanbarth hanesyddol Karelia y Ffindir, yn ogystal â rhannau eraill o Ddwyrain y Ffindir, cadwyd yr hen draddodiadau canu cerdd yn well nag yn rhannau gorllewinol y wlad, felly canfyddir bod diwylliant Karelian yn cael ei ystyried yn fwy pur. Mae cerddoriaeth werin y Ffindir wedi mynd trwy adfywiad ac wedi dod yn rhan o gerddoriaeth boblogaidd. Mae pobl gogledd y Ffindir, Sweden, a Norwy, sef y Sami, yn adnabyddus yn bennaf am ganeuon hynod ysbrydol o'r enw joik.
Yn eironig, ysgrifennwyd yr opera Ffinneg gyntaf gan gyfansoddwr a aned yn yr Almaen, Fredrik Pacius, ym 1852. Ysgrifennodd Pacius y gerddoriaeth hefyd i'r gerdd Maamme/Vårt land (Our Country), anthem genedlaethol y Ffindir. Yn y 1890au lledaenodd cenedlaetholdeb Ffindir a daeth Jean Sibelius yn enwog am ei symffoni lleisiol Kullervo. Yn 1899 cyfansoddodd Finlandia, a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o ennill annibyniaeth i'r Ffindir. Cyfieithwyd y gân i'r Gymraeg a chafodd ei phoblogeiddio gan Dafydd Iwan.
Ochr yn ochr â Sibelius, crëwyd arddull cerddoriaeth arbennig y Ffindir gan Oskar Merikanto, Toivo Kuula, Erkki Melartin, Leevi Madetoja ac Uuno Klami . Ymhlith y cyfansoddwyr modern pwysicaf mae: Einojuhani Rautavaara, Aulis Sallinen a Magnus Lindberg.[76] Mae llawer o gerddorion o'r Ffindir wedi cael llwyddiant rhyngwladol. Yn eu plith mae'r arweinydd Esa-Pekka Salonen, y gantores opera Karita Mattila a'r feiolinydd Pekka Kuusisto.
Mae Iskelmä (a fathwyd yn uniongyrchol o'r gair Almaeneg Schlager, sy'n golygu "taro") yn air traddodiadol o'r Ffindir am gân boblogaidd ysgafn.[77] Mae cerddoriaeth boblogaidd y Ffindir hefyd yn cynnwys gwahanol fathau o gerddoriaeth ddawns a'r tango, arddull hefyd yn boblogaidd. [78] Mae gan y gerddoriaeth ysgafn mewn ardaloedd lle siaredir Swedeg fwy o ddylanwadau o Sweden. Mae o leiaf dau polkas Ffinneg sy'n hysbys ledled y byd sef y kkijärven polkka [79] a'r "Ievan polkka".[80]
Mae'r Ffindir wedi ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision unwaith, yn 2006 pan enillodd Lordi y gystadleuaeth gyda'r gân <span typeof="mw:Nowiki" id="mwCR8">''Hard Rock Hallelujah''</span>.[81] Daeth yr artist pop o’r Ffindir Käärijä hefyd yn ail yn y gystadleuaeth yn 2023 gyda’i gân boblogaidd fyd-eang <span typeof="mw:Nowiki" id="mwCSQ">'' Cha Cha Cha ''</span>.[82][83]
Yn y diwydiant ffilm, mae cyfarwyddwyr modern nodedig yn cynnwys y brodyr Mika ac Aki Kaurismäki, Dome Karukoski, Antti Jokinen, Jalmari Helander, a Renny Harlin. Mae rhai cyfresi drama o'r Ffindir yn adnabyddus yn rhyngwladol, fel Bordertown.
Un o'r ffilmiau Ffindir mwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol yw Valkoinen Peura (Y Carw Gwyn) a gyfarwyddwyd gan Erik Blomberg yn 1952, ac a enillodd Wobr Golden Globe am y Ffilm Dramor Orau yn 1956;[84][85] TMies Vailla Menneisyyttä (Y Dyn Heb Orffennol), a gyfarwyddwyd gan Aki Kaurismäki yn 2002, a enwebwyd am Wobr yr Academi am y Ffilm Iaith Dramor Orau yn 2002 ac enillodd y Grand Prix yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes 2002; a'r Ffensiwr, a gyfarwyddwyd gan Klaus Härö yn 2015, ac a enwebwyd ar gyfer y 73ain Gwobrau Golden Globe yn y categori Ffilm Iaith Dramor Orau fel cyd-gynhyrchiad Ffindir/Almaeneg/Estoneg.[86]
Yn y Ffindir, mae'r ffilmiau mwyaf arwyddocaol yn cynnwys Y Milwr Anhysbys, a gyfarwyddwyd gan Edvin Laine yn 1955.[87] Mae Täällä Pohjantähden Alla (Yma, O dan Seren y Gogledd) o 1968, hefyd yn un o'r gweithiau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Ffindir.[88] Pleidleisiwyd ffilm gomedi droseddol o 1960 Komisario Palmun Erehdys, a gyfarwyddwyd gan Matti Kassila, yn 2012 fel ffilm gorau'r Ffindir erioed gan feirniaid ffilm a newyddiadurwyr o'r Ffindir,[89] ond ffilm gomedi 1984 Uuno Turhapuro Armeijan Leivissä, yw'r ffilm ddomestig fwyaf poblogaidd yn y Ffindir a wnaed ers 1968 gan ddinasyddion y Ffindir.
|